Archifau Categori: Newyddion

Papur Gwyn ar Anghenion Dysgu Arbennig

DATGANIAD I’R WASG. PRESS RELEASE

Anghenion Dysgu Arbennig – ond dim ystyriaeth i anghenion ieithyddol

Mae Dathlu’r Gymraeg wedi ymateb yn feirniadol i Bapur Gwyn gan Lywodraeth Cymru sy’n diwygio’r drefn ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg “Er bod y cynigion yn gyffredinol synhwyrol, mae’r Papur Gwyn yn gwbl ddiffygiol mewn perthynas ag anghenion ieithyddol. Heblaw am un cyfeiriad byr at Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth, nid oes yr un cyfeiriad arall at y Gymraeg yn y ddogfen.

“Mae anghenion dysgu ychwanegol yn faes ble y gwyddom o brofiad bod teuluoedd yn cael anawsterau i dderbyn darpariaeth yn y Gymraeg. Byddai diwygio’r drefn yn rhoi cyfle euraidd i sicrhau gwell darpariaeth – ac i roi hawl i dderbyn y gwasanaeth yn y Gymraeg. Ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle, nac hyd yn oed wedi cydnabod yr anawsterau a’r galw presennol.

“Mae’r ddiffyg sylw llwyr i’r Gymraeg ac anghenion ieithyddol y plant hyn yn dipyn o sioc, a byddwn, fel mudiadau ar y cyd, yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod cyfeiriadau priodol yn y Mesur drafft pan gaiff ei gyhoeddi yn yr hydref.”

Cynhadledd Llwyddiannus ym Merthyr

Cynhaliwyd Cynhadledd lwyddiannus dros ben ym Merthyr ar 21 Mai i drafod Busoddi yn y Gymraeg.Cynhadledd 2014

Daeth arweinwyr tri plaid o’r Cynulliad – Kirsty Williams, Leanne Wood ac Andrew RT Davies yn ogystal â Keith Davies o’r Blaid Lafur. Roedd eu datganiadau yn gefnogol iawn i’r Gymraeg ac gobeithiwn weld y Cynulliad a’r Llywodraeth yn gweithredu yn gyflym mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Hefyd cafwyd anerchiadau diddorol gan nifer o gyfranwyr yn cynnwys Paul Bilbao o Wlad y Basg.Cynhadledd 2014 Paul Bilbao

Ceir crynodeb o’r cyfraniadau yn y linciau isod.

Paul Bilbao –  Paul Bilbao Address

Cefin Campbell – Y Gymraeg yn Sir Gar

Rhian Huws Williams – Cyngor Gofal Cymru

Sian Lewis – Menter Caerdydd

Dai Bryer – Urdd

 

Paul Bilbao o fudiad Basgeg Kontseilua ym Merthyr

paul

 

Bydd arbenigwyr iaith a gwleidyddion yn ymgynnull i drafod cyllideb tecach i’r Gymraeg mewn cynhadledd a drefnir gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, ar yr 21ain Fai.

Ymhlith y siaradwyr bydd Kirsty Williams arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ac Andrew RT Daves arweinydd y Ceidwadwyr. Yn dilyn sesiynau’r gwleidyddion bydd cyflwyniadau gan Paul Bilbao o Wlad y Basg, y Cynghorydd Cefin Campbell a fu’n arwain tasglu yn edrych ar sefyllfa y Gymraeg yn Sir Gâr, Siân Lewis o Fenter Iaith Caerdydd, Dai Bryer o’r Urdd a Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Gyngor Gofal Cymru. Bydd gweithgareddau’r dydd yn cael eu llywio gan y darlledwr profiadol Vaughan Roderick.

Meddai Penri Williams o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg:

Lluniwyd papur trafod gennym yn adnabod nifer o feysydd lle gellid targedu buddsoddiad ychwanegol . Rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar i glywed beth fydd gan Paul Bilbao i ddweud gan y medrwn ddysgu llawer oddi wrth brofiad gwlad y Basg.”

Dywedodd Paul Bilbao:

Nid yw iaith lleiafrifol yn cael ei hadennill drwy adnoddau yn unig. Mae angen polisi iaith integredig gan gynnwys rheoliadau digonol, gweithredu a chynllunio manwl.

“Nid faint sy’n cael ei wario yw’r unig fater; mae’r hyn y warir yr arian arno hyd yn oed yn bwysicach. Wrth bennu polisïau iaith a chlustnodi adnoddau, mae’n bwysig canolbwyntio ar ddau brif faes: pobl a llefydd.


“Rhaid i bolisïau dargedu gwybodaeth pobl am yr iaith leiafrifol, ac yn ail y mannau lle mae’n bosibl i ddefnyddio’r iaith a ddysgir, er mwyn byw drwy’r iaith a defnyddio’r iaith.


“Ni allwn rhoi ein holl adnoddau tuag at gael pobl i siarad yr iaith a pheidio darparu llefydd iddynt ddefnyddio’r iaith unwaith y byddant wedi ei meistrioli.”

Mae Paul Bilbao yn Ysgrifenydd Cyffredinol i fudiad Kontseilua (Cyngor Cyrff Cymdeithasol o blaid yr Iaith Fasgeg) a sefydlwyd 10 mlynedd yn ôl gan 45 sefydliad/mudiad amrywiol. Y nôd yw gweithio dros yr iaith Fasgeg fel un corff yn hytrach nag fel mudiadau unigol er hyrwyddo a normaleiddio defnydd o’r iaith Fasgeg.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

AMSERLEN Y DYDD

9.30 Cyrraedd

9.45 Croeso

10.00 Penri Williams, cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg

10.40 Cynghorydd Ernie Galsworthy, Cyngor Bwrdeistref Merthyr

11:00 Leanne Wood AC, Kirsty Williams AC, Andrew RT Davies AC, Keith Davies AC

11.45 Paul Bilbao, ymgyrchydd iaith o Wlad y Basg

12.30 Cyng Cefin Campbell, Cyngor Sir Gâr

13.00 Cinio

13.45 Sian Lewis, Menter Iaith Caerdydd a Dai Bryer, yr Urdd

14.15 Rhian Huws Williams, Cyngor Gofal Cymru

14.40 Trafod Datganiad i’r Pleidiau ystyried wrth greu Maniffesto

15.00 Cyfarfod Blynyddol

Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech fod yn bresennol yn y gynhadledd, cysylltwch â Gaynor Jones: gaynorjones@dathlu.org / 01554 833902 / 07775 847710

Aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg:

CAER, Cronfa Glyndwr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru

 

Galw ar y Prif Weinidog i weithredu er mwyn hybu’r iaith Gymraeg

Ar 5 Mawrth bu cynrychiolaeth o Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn cwrdd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, i alw am ymateb cryf i ganlyniadau’r Cyfrifiad ac i weithredu yn gadarn i hybu’r iaith Gymraeg. Datganwyd pryder nad oes camau clir mewn golwg i ymateb i’r her o sicrhau dyfodol y Gymraeg. Erbyn hyn mae nifer o adolygiadau ar gyflwr yr iaith a gomisiynwyd gan y Llywodraeth wedi eu cyhoeddi a’r argymhelliad clir sy’n cael ei gyfleu yw fod angen adnoddau ychwanegol i wella’r ddarpariaeth i hybu’r Gymraeg.

Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr, “Roedd bwrlwm o syniadau a brwdfrydedd yn y Gynhadledd Fawr a gynhaliwyd y flwyddyn diwethaf ond rydym yn parhau i aros i’r Llywodraeth weithredu. Mae cymunedau Cymraeg yn dioddef o ddiffyg adnoddau a gweithgareddau cymdeithasol”.

Roedd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC, yn pryderu am effaith toriadau llywodraeth leol ar addysg Gymraeg. “Bydd toriadau yn y gwasanaethau cludiant yn effeithio ar allu rhieni i ddanfon eu plant i gael addysg cyfrwng Cymraeg. Mae angen i’r Llywodraeth sicrhau fod eu polisïau yn rhoi cyfle teg i bawb gael addysg yn eu dewis iaith. Hefyd mae angen sicrhau fod hyfforddiant ar gael i ddarparu gweithlu priodol ar gyfer y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ein hysgolion”.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd  Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, “Mae angen i ni fod yn hyderus am ddyfodol yr iaith, gallwn ni ddim fforddio aros cyn gweithredu. Mae cefnogaeth o bob plaid yn y Cynulliad i’r Gymraeg ac mae’n bwysig fod y Cynghorau Sir hefyd yn sicrhau darpariaeth deg.

“Roedd y Prif Weinidog yn amlwg yn sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa ac am ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o weithredu.

“Does dim diffyg syniadau na gweledigaeth” meddai Penri Williams, “Mae’r Mudiadau wedi creu rhestr o dros 50 o gamau gellir eu gweithredu, llawer drwy weithio gyda’r cyllid presennol ac eraill lle mae angen buddsoddiad ychwanegol i roi cyfleon i ddefnyddio’r iaith.”

Cred Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.  Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn trefnu cynhadledd ym mis Mai gan ddisgwyl y bydd cynlluniau y Llywodraeth wedi eu cyhoeddi erbyn hynny. Bwriad y Gynhadledd fydd ymchwilio i sut allwn sicrhau fod y Gymraeg yn rhan ganolog o ddarpariaeth y Llywodraeth, y Cynghorau Sir a chyrff cyhoeddus eraill.

 

 

Deiseb i Gefnogi’r Mentrau Iaith

Mentrau Iaith CymruMae’r Mentrau Iaith yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ar draws Cymru gyfan, i siaradwyr a dysgwyr o bob oed, a fyddai fel arall yn cael llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Fodd bynnag, mae adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes digon o adnoddau gan y mentrau – a bod angen eu hariannu’n well.

Mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru gymryd yr adroddiad hwn o ddifrif ac ymateb yn gadarnhaol iddo.
Mae’r lobi iaith, Dyfodol, wedi cyflwyno deiseb electronig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan alw arno i gefnogi’r Mentrau – ac i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i’w hariannu’n deg.
Llofnodwch y ddeiseb, os gwelwch yn dda!

Ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg: Casglu barn y cyhoedd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ‘Safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg’ Comisiynydd y Gymraegar 6 Ionawr 2014. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd safonau’r Gymraeg mewn cyfraith erbyn Tachwedd 2014. Mae ymchwiliad safonau Comisiynydd y Gymraeg wedi ei seilio ar safonau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Dylid mynd at wefan Llywodraeth Cymru i weld y ddogfen ‘Safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg’. Gallwch wneud hynny drwy glicio ar y ddolen isod.

Safonau

26 sefydliad sy’n rhan o’r ymchwiliad safonau cyntaf, sef:

• 22 Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol Cymru; • 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru, a • Gweinidogion Cymru.

Wrth gynnal yr ymchwiliad bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori â phob sefydliad perthnasol, y Panel Cynghori, ac â’r cyhoedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg am glywed barn cynifer â phosibl o’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae holiadur ar y dudalen hon sy’n rhoi cyfle i chi nodi beth rydych yn teimlo sy’n rhesymol i sefydliadau ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg.

Cyfnod yr ymchwiliad safonau Dyddiad dechrau’r ymchwiliad safonau hwn yw 27 Ionawr 2014. Bydd yn dod i ben ar 18 Ebrill 2014.

DIWRNOD SHWMAE SUMAE, Hydref 15ed, 2014

Blwyddyn Newydd Dda. Yn gyntaf DIOLCH YN FAWR I bawb weithiodd mor galed I ddathlu’r Gymraeg  yn 2013, roedd  llwyddiant y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf erioed wedi ysbrydoli unigolion yn hen ac  ifanc mewn cymunedau ar draws Gymru gyfan.Shwmae Sumae 15Hydref

Lawnsiwyd y diwrnod am y tro cyntaf llynedd,  cofrestrwyd tua 120 o weithgareddau. Gwnaethpwyd fideo yn Sir Benfro, fflachmobiodd myfyrwyr a dysgwyr Aberystwyth; cynhaliwyd bore coffi mewn sawl cymuned a cynhaliodd sawl ysgol  di-Gymraeg diwrnod I ddathlu a hybu yr iaith.  Roedd gweithgaredd Facebook a Twitter wedi llwyddo I ledaenu y neges mor bell a’r Wladfa, cyraeddodd yr hashnod #Shwmaesumae tua 700,000 cyfrif ar y diwrnod, sy’n tipyn o gamp! Mae hyn I gyd wedi gosod cynsail da ar gyfer y dyfodol.

Felly beth am wneud yr un peth eleni eto a chofio annog pobl a chymdeithasau eraill yn eich bro/trefi/pentrefi I ymuno yn y dathlu. Gallwn ni lwyddo I ledaenu’r neges bod y Gymraeg I bawb ac annog cyfranogiad gan bawb beth bynnag yw eu gafael ar yr iaith.

Ymgyrch o’r gwraidd yw hon, ymgyrch bositif I hyrwyddo yr iaith, ac yn bennaf oll ymgyrch cynhwysol I ddod a Chymry rhugl eu Cymraeg, dysgwyr a Chymry sy’n ystyried eu Cymraeg yn “dalcen slip” at eu gilydd.  Mae’r modd y cydiodd y diwrnod yn nychymyg pobl wedi profi maint yr awch a’r ewyllys da sydd gan gymunedau Cymru tuag at yr iaith a’r hyn sy’n rhyfeddol yw nad oedd unrhyw nawdd yn gyrru’r ymgyrch, dim ond brwdfrydedd a’ch creadigrwydd CHI!.

Safonau y Gymraeg

Safonau 2014Mae’r set gyntaf o safonau mewn perthynas â’r Gymraeg wedi ei chyhoeddi

Gellir darllen y safonau yma >  Safonau

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad rhwng 27Ionawr a 18 Ebrill i ddyfarnu pa sefyliad a pha safonau fydd yn gymwys iddynt.

Yn dilyn cyhoeddi’r Safonau newydd gan y Llywodraeth mae dyletswydd ar Comisiynydd y Gymraeg i wneud ymchwiliad i ddyfarnu a ddylai corff orfod cydymffurfio â safonau a pha safonau ddylai fod yn benodol gymwys iddynt.

Mae’r Ymchwiliad Safonau cyntaf yn cychwyn ar y 27 Ionawr ac yn parhau hyd 18 Ebrill ac yn cynnwys y Cynghorau Sir, y Parciau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Ymchwiliad yn rhoi cyfle i’r awdurdodau ymateb i’r Safonau a hefyd bydd Holiadur i’r cyhoedd rhoi ei barn ar y Safonau ac fe fydd y Comisiynydd yn ystyried y Cynlluniau Iaith presennol a’r adroddiadau monitro.

Erbyn 30 Mai bydd y Comisiynydd yn paratoi adroddiad ar y Safonau all gynnwys argymhellion i’w newid neu addasu ac yn nodi pa gyrff ddylai fod yn gweithredu pa safonau.

Bydd y Llywodraeth yn ystyried adroddiad y Comisiynydd ac yn paratoi Rheoliadau i’w gosod gerbron y Cynulliad fydd yn enwi pob awdurdod ac a ba Safonau y bydd angen iddo gydymffurfio.

Disgwylir cwblhau y broses erbyn diwedd mis Tachwedd 2014.

Bydd amserlen yn cael ei gyhoeddi ar gyfer yr un broses i gyrff eraill megis yr Awdurdodau Iechyd ayb.

Bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbyseb Statudol fod yr Ymchwiliad yn digwydd ar 27 Ionawr ac yn gwahodd y cyhoedd i ymateb drwy Holiadur ar-lein neu drwy e-bost.

£100 miliwn i Gymru, apêl i’w ddefnyddio er mwyn y Gymraeg

Mae mudiadau iaith wedi galw ar y Prif Weinidog i fuddsoddi canran o’r arian a ddaw i Gymru yn sgil Datganiad Hydref y Canghellor ym mhrosiectau iaith Gymraeg a fyddai’n gwella sgiliau plant a gweithwyr.

Mae cyllideb ddrafft bresennol Llywodraeth Cymru’n amlinellu toriadau ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â’r Gymraeg; yn benodol, toriadau o fwy na £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn grŵp ymbarél sy’n cynrychioli 25 o fudiadau sy’n gweithio i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mewn llythyr at y Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyllid heddiw, dywed Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, Penri Williams:

“Dangosodd canlyniadau’r Cyfrifiad bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng a bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder i atal cwymp pellach. Cawsom gyfarfod adeiladol iawn gyda’ch swyddogion yn ddiweddar lle dangoswyd awydd i weithredu ar gynigion ymarferol pe byddai arian ychwanegol ar gael.

“Sylweddolwn bod y sefyllfa ariannol bresennol yn heriol, ond nodwn hefyd bod yr arian ychwanegol yma’n cynnig cyfle i gynorthwyo’r Gymraeg trwy gyplysu hynny â’r agenda i wella sgiliau yn ogystal â safon y gofal yn ein gwasanaeth iechyd.

“Awgrymwn felly y gallwch wneud y canlynol gyda’r arian ychwanegol:

·         sefydlu canolfannau hwyrddyfodiaid i ddisgyblion (yn seiliedig ar fodel Gwynedd) yn Sir Gaerfyddin, Ceredigion ac Ynys Môn;

·         darparu arian i Ganolfannau Cymraeg i Oedolion fel bod modd darparu cyrsiau Cymraeg ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant a gweithwyr iechyd

·         cefnogaeth ychwanegol i fudiadau sy’n darparu gweithgareddau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid.”