Archif Awdur: Golygydd

Ehangu Addysg Cyfrwng Cymraeg

Ceir gwahoddiad isod i gyfarfod nesaf Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg

Ehangu Addysg Cyfrwng Cymraeg


Trafodaeth gydag Aled Roberts, Cadeirydd, Bwrdd Ymgynghori Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

6.30y.h. Nos Fercher, 10fed Hydref


Ystafell Cynadledda A, Tŷ Hywel, Y Cynulliad Cenedlaethol

Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg
Noddir gan Dr Dai Lloyd AC
RSVP – Marcia.spooner@cynulliad.cymru

 

 

Diwrnod ShwmaeSu’mae 15 Hydref

Diwrnod Shwmae Sumae, 15fed o Hydref, 2018

Eleni bydd Diwrnod Shwmae Sumae yn digwydd am y pumed tro ar Hydref 15fed. Cofiwch achub ar y cyfle i ddathlu’r iaith Gymraeg, yn eich ysgol, coleg, gweithle, ysbyty, caffi, bar neu siop leol.

Dechreuodd Diwrnod Shwmae Sumae 6 mlynedd yn ô gyda dros 100 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ac wedi eu hysbrydoli gan ymgyrchoedd tebyg i hybu ieithoedd brodorol Gwlad y Basg a Llydaw.

Heddiw mae’r achlysur wedi ei gofleidio gan bobl ymhob rhan o Gymru, yn ddysgwyr, y di-gymraeg a siaradwyr Cymraeg. Erbyn hyn mae cannoedd o ddigwyddiadau ac achlysuron yn cael eu cynnal o Fôn i Fynwy ar Hydref 15fed neu yn ystod yr wythnos honno. Mae nifer o sefydliadau ac ysgolion yn cynnal digwyddiadau o gwmpas y Diwrnod er mwyn hyrwyddo’r iaith, annog eraill i’w defnyddio ac fel ffordd o bontio rhwng cymunedau Cymraeg a di-gymraeg.

Mae mudiadau sy’n aelodau o Ddathlu’r Gymraeg yn annog pawb i gymryd rhan yn y dathliadau eleni, ac os ydych chi angen cyngor ar beth i’w wneud cysylltwch gydag un o’r isod, maent yn siŵr o’ch rhoi ar ben y ffordd:

CAER, Cronfa Glyndŵr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Mudiad Meithrin, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru

Cewch fanylion a syniadau ar www.shwmae.org

Dilynwch ni ar Twitter @shwmaesumae ac ar Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae

 

Cynhadledd Dyfodol Darlledu Cymraeg

Bydd Dathlu’r Gymraeg yn cynnal cynhadledd ar ddydd Iau, 9 Tachwedd yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd i drafod Dyfodol Darlledu Cymraeg.

Un o nodau’r diwrnod fydd gwneud cyfraniad uniongyrchol at yr adolygiad annibynnol o S4C a gynhelir gan Lywodraeth San Steffan, ac ysgogi unigolion a mudiadau i gyfrannu’n ffurfiol at y broses.

A caiff y rhwyd ei daflu dipyn yn ehangach gan gynnwys siaradwyr a thrafodaethau nid yn unig ar S4C ond ar ddarlledwyr eraill, gan gynnwys y BBC, a dulliau eraill o ddarlledu, gan gynnwys ar lefel gymunedol.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cadeirydd y Gynhadledd: “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle pwysig i drafod darlledu yn yr iaith Gymraeg yn ei holl ffurfiau cyfoes a hynny ar gyfnod heriol i’r diwydiannau creadigol. Trwy ddod a phrif gynrychiolwyr y sector a mudiadau’r iaith Gymraeg at ei gilydd, y nod yw rhannu syniadau cyffrous a datblygu strategaethau uchelgeisiol at y dyfodol.”

Dywedodd Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg “Mae Dathlu’r Gymraeg yn edrych ymlaen at ddiwrnod o drafodaethau amrywiol a heriol ar ddyfodol darlledu Cymraeg. Bydd siaradwyr o statws uchel yn y diwydiannau creadigol a lleisiau llawr gwlad yn rhannu syniadau ac yn cyd-drafod ar y pwnc hwn sy’n agos at ein calonnau, a hynny ar adeg hynod ddylanwadol.”

DIWEDD

Nodiadau

Dyddiad: Dydd Iau, 9fed o Dachwedd 2017, 10:00yb-16:00yh

Lleoliad: Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd

Siaradwyr a phanelwyr:

Yn cadeirio: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Prifysgol Aberystwyth

Dafydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Euryn Ogwen Williams, Cadeirydd Adolygiad S4C

Owen Evans, Prif Weithredwr S4C

Betsan Powys, BBC Radio Cymru

Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Grŵp Tinopolis

Huw Marshall, @YrAwrGymraeg;

Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata Mudiad Meithrin

Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C

Cai Morgan, Hansh!

Iestyn Garlick, TAC

Daniel Glyn, awdur a chomedïwr

Siân Morgan Lloyd, Prifysgol Caerdydd

Non Vaughan Williams, Prifysgol Abertawe

Dr Helen Davies, Prifysgol De Cymru

a phanel o fyfyrwyr o JOMEC Cymru yn cynnwys: Liam Ketcher, Aled Huw Russell, Lleu Bleddyn, Llion Carbis ac Elen Davies

Cynhadledd Dyfodol Darlledu Cymraeg

Gyda chylch gorchwyl S4C a’i fformiwla ariannu yn cael ei adolygu ar gyfer y cyfnod wedi 2017 a’r disgwyliad i’r Llywodraeth gyhoeddi cynnig ynghylch hyn yn y flwyddyn newydd mae maes darlledu yn bwnc trafod amserol a pherthnasol. Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i alw am ddiogelu a chynyddu cyllid S4C ond hefyd i annog meddwl mwy creadigol o ran datblygu defnydd a phresenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau ac ar lwyfannau digidol yn ehangach.

9 Tachwedd 2017

Diwrnod Shwmae Sumae, 15fed o Hydref, 2017

Mae Shwmae Sumae yn digwydd am y pumed tro ar Hydref 15fed. Cofiwch achub ar y cyfle i ddathlu’r iaith Gymraeg, yn eich ysgol, coleg, gweithle, ysbyty, caffi, bar neu siop leol.

Dechreuodd Diwrnod Shwmae Sumae 5 mlynedd yn ô gyda dros 100 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ac wedi eu hysbrydoli gan ymgyrchoedd tebyg i hybu ieithoedd brodorol Gwlad y Basg a Llydaw.

Heddiw mae’r achlysur wedi ei gofleidio gan bobl ymhob rhan o Gymru, yn ddysgwyr, y di-gymraeg a siaradwyr Cymraeg. Erbyn hyn mae cannoedd o ddigwyddiadau ac achlysuron yn cael eu cynnal o Fôn i Fynwy ar Hydref 15fed neu yn ystod yr wythnos honno. Mae nifer o sefydliadau ac ysgolion yn cynnal digwyddiadau o gwmpas y Diwrnod er mwyn hyrwyddo’r iaith, annog eraill i’w defnyddio ac fel ffordd o bontio rhwng cymunedau Cymraeg a di-gymraeg.

Mae mudiadau sy’n aelodau o Ddathlu’r Gymraeg yn annog pawb i gymryd rhan yn y dathliadau eleni, ac os ydych chi angen cyngor ar beth i’w wneud cysylltwch gydag un o’r isod, maent yn siŵr o’ch rhoi ar ben y ffordd:

CAER, Cronfa Glyndŵr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Mudiad Meithrin, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru

Cewch fanylion a syniadau ar www.shwmae.org

Dilynwch ni ar Twitter @shwmaesumae ac ar Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae

Shwmae Su’mae 2017

Diwrnod Shwmae Su’mae, 15fed o Hydref, 2017

Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, yn yr ysgol, ar y maes chwarae a gyda’ch ffrindiau.

Cofiwch rhoi gwybod i ni am ddigwyddiadau 2017, er mwyn i ni helpu hysbysebu a hyrwyddo!

swyddfa@dathlu.org / 07967771361 / @ShwmaeSumae

Adolygiad S4C a Darlledu mewn Ieithoedd Lleiafrifol

Grŵp Trawsbleidiol ar yr Iaith Gymraeg y Cynulliad

Ymunwch gyda ni ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp.

Cadeirydd: Jeremy Miles AC

6pm, Nos Lun, 26ain Mehefin

Ystafell Gynadledda C ,Tŷ Hywel

“Adolygiad S4C a Darlledu mewn Ieithoedd Lleiafrifol”

Siaradwyr:

Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C

Xabier Landabidea Urresti, Prifysgol La Universidad de Deusto, Gwlad y Basg

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Prifysgol Aberystwyth

Ymunwch gyda ni am drafodaeth ddifyr a chyfle i helpu llywio trafodaethau’r grŵp yn y Pumed Cynulliad.

Bydd trafodion y grŵp yn Gymraeg, gyda chyfleusterau cyfieithu ar gael.

 

Diwrnod Shwmae Su’mae yn agosau

Gyda llai na phythefnos at Ddiwrnod Shwmae Su’mae, mae cyffro mawr yma. Cynnwrf yn adeiladu ar gyfryngau cymdeithasol hefyd, cofiwch rannu/ail-drydar neu ddefnyddio’r hashnod #ShwmaeSumae.

Mae llwyth o adnoddau ar wefan www.shwmae.cymru er mwyn hwyluso gweithgareddau, atodaf ambell enghraifft, gan gynnwys y gwaith celf arbennig gan un o bencampwyr eleni, Swci Delic.

Mae’r rhestr o weithgareddau yn prysur lenwi – oes cynlluniau gyda chi i rannu?

shwmae-swci2016Mae ychydig o sticeri a chardiau post ar gael os oes diddordeb, rhaid bod yn gyflym, galw mawr amdanynt. Mae modd rhannu’r gwaith celf os diddordeb mewn argraffu mwy.