Diwrnod Shwmae Sumae, 15fed o Hydref, 2018
Eleni bydd Diwrnod Shwmae Sumae yn digwydd am y pumed tro ar Hydref 15fed. Cofiwch achub ar y cyfle i ddathlu’r iaith Gymraeg, yn eich ysgol, coleg, gweithle, ysbyty, caffi, bar neu siop leol.
Dechreuodd Diwrnod Shwmae Sumae 6 mlynedd yn ô gyda dros 100 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ac wedi eu hysbrydoli gan ymgyrchoedd tebyg i hybu ieithoedd brodorol Gwlad y Basg a Llydaw.
Heddiw mae’r achlysur wedi ei gofleidio gan bobl ymhob rhan o Gymru, yn ddysgwyr, y di-gymraeg a siaradwyr Cymraeg. Erbyn hyn mae cannoedd o ddigwyddiadau ac achlysuron yn cael eu cynnal o Fôn i Fynwy ar Hydref 15fed neu yn ystod yr wythnos honno. Mae nifer o sefydliadau ac ysgolion yn cynnal digwyddiadau o gwmpas y Diwrnod er mwyn hyrwyddo’r iaith, annog eraill i’w defnyddio ac fel ffordd o bontio rhwng cymunedau Cymraeg a di-gymraeg.
Mae mudiadau sy’n aelodau o Ddathlu’r Gymraeg yn annog pawb i gymryd rhan yn y dathliadau eleni, ac os ydych chi angen cyngor ar beth i’w wneud cysylltwch gydag un o’r isod, maent yn siŵr o’ch rhoi ar ben y ffordd:
CAER, Cronfa Glyndŵr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Mudiad Meithrin, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru
Cewch fanylion a syniadau ar www.shwmae.org
Dilynwch ni ar Twitter @shwmaesumae ac ar Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae