Bydd Dathlu’r Gymraeg yn cynnal cynhadledd ar ddydd Iau, 9 Tachwedd yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd i drafod Dyfodol Darlledu Cymraeg.
Un o nodau’r diwrnod fydd gwneud cyfraniad uniongyrchol at yr adolygiad annibynnol o S4C a gynhelir gan Lywodraeth San Steffan, ac ysgogi unigolion a mudiadau i gyfrannu’n ffurfiol at y broses.
A caiff y rhwyd ei daflu dipyn yn ehangach gan gynnwys siaradwyr a thrafodaethau nid yn unig ar S4C ond ar ddarlledwyr eraill, gan gynnwys y BBC, a dulliau eraill o ddarlledu, gan gynnwys ar lefel gymunedol.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cadeirydd y Gynhadledd: “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle pwysig i drafod darlledu yn yr iaith Gymraeg yn ei holl ffurfiau cyfoes a hynny ar gyfnod heriol i’r diwydiannau creadigol. Trwy ddod a phrif gynrychiolwyr y sector a mudiadau’r iaith Gymraeg at ei gilydd, y nod yw rhannu syniadau cyffrous a datblygu strategaethau uchelgeisiol at y dyfodol.”
Dywedodd Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg “Mae Dathlu’r Gymraeg yn edrych ymlaen at ddiwrnod o drafodaethau amrywiol a heriol ar ddyfodol darlledu Cymraeg. Bydd siaradwyr o statws uchel yn y diwydiannau creadigol a lleisiau llawr gwlad yn rhannu syniadau ac yn cyd-drafod ar y pwnc hwn sy’n agos at ein calonnau, a hynny ar adeg hynod ddylanwadol.”
DIWEDD
Nodiadau
Dyddiad: Dydd Iau, 9fed o Dachwedd 2017, 10:00yb-16:00yh
Lleoliad: Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd
Siaradwyr a phanelwyr:
Yn cadeirio: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Prifysgol Aberystwyth
Dafydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Euryn Ogwen Williams, Cadeirydd Adolygiad S4C
Owen Evans, Prif Weithredwr S4C
Betsan Powys, BBC Radio Cymru
Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Grŵp Tinopolis
Huw Marshall, @YrAwrGymraeg;
Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata Mudiad Meithrin
Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C
Cai Morgan, Hansh!
Iestyn Garlick, TAC
Daniel Glyn, awdur a chomedïwr
Siân Morgan Lloyd, Prifysgol Caerdydd
Non Vaughan Williams, Prifysgol Abertawe
Dr Helen Davies, Prifysgol De Cymru
a phanel o fyfyrwyr o JOMEC Cymru yn cynnwys: Liam Ketcher, Aled Huw Russell, Lleu Bleddyn, Llion Carbis ac Elen Davies