Comisiynydd y Gymraeg

Comisiynydd y Gymraeg – Meri Huws

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn:

  • canolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, gan ddatblygu a gosod safonau, datblygu codau ymarfer a sefydlu trefn orfodi newydd, gan barhau i weithredu system y cynlluniau iaith Gymraeg yn y cyfamser.
  • monitro perfformiad cyrff yn unol â’r dyletswyddau sydd arnynt.
  • ymdrin â chwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd ynghylch unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau.
  • cynghori sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector nad yw’r dyletswyddau statudol a bennir ym Mesur y Gymraeg yn berthnasol iddynt ynghylch arferion da a hybu’r arferion da hynny.
  • darparu sylfaen o ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ynghylch sefyllfa’r Gymraeg ac ymchwilio i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r iaith.
  • cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion polisi a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.
  • craffu’n annibynnol ar bolisïau Llywodraeth Cymru ac ymateb i ddogfennau ymgynghori.
  • datblygu’r seilwaith er mwyn helpu pobl eraill i ddarparu gwasanaethau Cymraeg (ee mewn perthynas â therminoleg a chyfieithu).
  • ymdrin â cheisiadau ynghylch ymyriadau honedig â rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.

Ffurflen Gwyno am Wasanaeth >> Ffurflen

Gwefan >> Comisiynydd y Gymraeg