Amcanion

Galw am yr Hawl i Ddefnyddio’r Gymraeg

Mae Mudiad Dathlu’r Gymraeg yn galw am:

Sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau.

Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Neilltuo adnoddau ychwanegol i sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg.

Gweithredu Mesur y Gymraeg (2010) yn ddi-oed, a blaenoriaethu gosod safonau ar y cwmnïau sy’n dod o dan gwmpawd y mesur yn osystal â’r Gwasanaeth Iechyd ac Awdurdodau Lleol.

Creu ‘Cynlluniau Gweithredol’ ar gyfer Strategaeth Iaith Fyw : Iaith Byw.

Gwireddu’r cerrig milltir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gan sicrhau fod dysgwyr ym mhob cyfnod statudol o addysg yn cael mynediad hwylus at addysg gyfrwng Cymraeg.

Sicrhau dyfodol llewyrchus ac annibynnol i S4C a gwneud cais am bwerau deddfwriaethol dros ddarlledu i Lywodraeth Cymru.

Mae

CAER, Cronfa Glyndwr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru,
CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Coleg Cymraeg Cenedlaethol,
Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen,
Cymdeithas Cerdd Dant Cymru,
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod,
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,
Eglwys Bresbyteraidd Cymru,
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr,
Mentrau Iaith Cymru,
Mudiad Meithrin, RhAG, UAC,
UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru

yn rhan o Dathlu’r Gymraeg

[tubepress]