Safonau Cyntaf
Mae’r Cynulliad wedi cadarnhau y Safonau ar gyfer Awdurdodau Lleol, y Llywodraeth a Pharciau Cenedlaethol gyda cadarnhad y bydd gwaith o dan gytundeb hefyd yn cael ei gynnwys yn y Safonau.
Trafodion y Cynulliad >> Trafodion
Strategaeth Llywodraeth CymruIaith fyw: iaith byw – Bwrw mlaen 2014Bwriad y datganiad polisi hwn yw i osod ein ffocws dros y dair blynedd nesaf wrth inni barhau i weithredu’r strategaeth. Mae’r datganiad hwn yn cymryd i ystyriaeth nifer o ddatblygiadau ers inni gyhoeddi’r strategaeth yn 2012. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol. Iaith fyw: iaith byw Strategaeth y Gymraeg 2012 – 2017Ar 1 Mawrth 2012 cyhoeddwyd y Strategaeth am y pum mlynedd nesaf >> Strategaeth Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae’r strategaeth yn anelu at weld cynydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad yr iaith, ac sy’n ei defnyddio. Mae’r strategaeth hefyd am weld:
Er mwyn gwireddu hyn, mae’r strategaeth yn adnabod chwe maes strategol.
Mae’r strategaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru fel elfen hanfodol wrth greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol – ar y cyd ag annog y defnydd o’r iaith o fewn teuluoedd. Mae’r strategaeth yn rhoi pwyslais arbennig ar greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, boed iddyn nhw eu cael yn y cartref neu drwy’r system addysg, ym mhob agwedd ar fywyd pob dydd. Mae hon yn strategaeth ar gyfer pum mlynedd, o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2017, ac yn disodli Iaith Pawb a gyhoeddwyd yn 2003. Yn 2012 cyhoeddwyd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg >> Strategaeth Addysg Strategaeth ar gyfer y Gymraeg 2011: datganiad ar y camau nesaf >> DatganiadMae’r e-fwletinau yn rhoi crynodeb i chi o Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae nhw’n cynnwys rhagor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi a deddfwriaeth yr iaith Gymraeg. >> E-fwletinau Iaith Fyw: Iaith Byw 2010 >> Iaith FywTaflen Strategaeth 2011 >> TaflenDogfen Iaith Pawb 2003 > Iaith Pawb |
Mesur y Gymraeg 2011 > Dogfen |
[blog_in_blog num=8 template=”excerptblogfile” category_slug=’llywodraeth’ pagination=”off”]