Newyddion

  • Dyfodol Darlledu Cymraeg

    Cynhadledd Dathlu’r Gymraeg 2017 – Dyfodol Darlledu Cymraeg

    Dyddiad: 10yb Dydd Gwener, 10 Mawrth 2017

    Lleoliad: Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd

    Siaradwyr gwadd: Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, Huw Marshall, Cai Morgan (Sianel Pump), Rhodri ap Dyfrig – mwy i gadarnhau

    Amcan y digwyddiad:

    Bydd cylch gorchwyl S4C a’i fformiwla ariannu yn cael ei adolygu ar gyfer y cyfnod wedi 2017. Disgwylir i’r Llywodraeth gyhoeddi cynnig ynghylch hyn yn y flwyddyn newydd.

    Felly mae maes darlledu yn bwnc trafod amserol a pherthnasol. Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i alw am ddiogelu a chynyddu cyllid S4C ond hefyd i annog meddwl mwy creadigol o ran datblygu defnydd a phresenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau ac ar lwyfannau digidol yn ehangach.

    Nod y diwrnod fydd datblygu a hwyluso’r drafodaeth drwy gynnig fforwm i arbenigwyr yn y maes er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol sydd yn yr arfaeth. Bydd hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol am gyfraniad allweddol y maes pwysig hwn o ran dyfodol y Gymraeg.

    Meysydd trafod o flaenoriaeth (gan gynnwys):
    *       Strwythur
    *       Cylch Gorchwyl
    *       Cyllideb
    *       Cydweithio agosach rhwng mwy o lwyfannau / cyfryngau digidol

     

    Yn y prynhawn bydd ffocws mwy eang ar ddatblygu presenoldeb y Gymraeg ar y llwyfannau digidol gyda siaradwyr gwadd a thrafodaeth panel.

     

    09/02/2017
  • Diwrnod Shwmae Su’mae?

    Shwmae Su’mae?

    Gyda Diwrnod Shwmae Su’mae  yn prysur agosáu, rydym ni  yn awyddus i sicrhau mai Diwrnod Shwmae Su’mae 2016 yw’r gorau eto. Mae llwyddiant yn ddibynnol ar ymroddiad unigolion a sefydliadau ledled Cymru, a hoffwn eich gwahodd i gynnal gweithgaredd a dathlu’r achlysur gyda ni ar 15 Hydref.2016taflen-shwmae

    Mae Diwrnod Shwmae Su’mae 2016 ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf eleni. Cyflwyna hyn gyfle i blethu’r dathliadau gyda gweithgareddau hamdden,  ar y cae chwarae neu ar y stryd fawr. Annogir gweithleoedd neu sefydliadau addysg i ddathlu ar y dydd Gwener, fel nad ydynt yn colli cyfle gwerthfawr i fod yn rhan o’r hwyl.

    Yn unol ag ethos Diwrnod Shwmae Su’mae, croesawir unrhyw fath o weithgaredd. Boed yn grŵp bach yn dod at ei gilydd, neu rhywbeth torfol, anferthol. Y peth pwysig yw nodi’r achlysur mewn ffordd sy’n meddwl rhywbeth i chi, rhywbeth sy’n hwyl ac yn gynhwysol.

    Eisiau cymryd rhan? Ddim yn siwr sut i fynd o’i hamgylch. Heb benderfynu sut i nodi’r achlysur eto? Dyma esiamplau o weithgareddau sydd ar waith er mwyn eich ysbrydoli;

    • Bore coffi / Sesiwn coffi a chlonc
    • Fflachdorf
    • Gweithdai
    • Rhedeg busnes? Beth am gynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy’n dechrau sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae?

    Am syniad o be sy ‘mlaen ledled y wlad, ewch i wefan www.shwmae.cymru neu dilyn cyfrif Trydar @ShwmaeSumae. Defnyddiwch yr hashnod #ShwmaeSumae wrth hyrwyddo eich digwyddiad.

    Mudiad ambarél Dathlu’r Gymraeg sy’n ysgogi’r gweithgaredd, ond mae’r diwrnod yn eiddo i bawb. Mae’r mudiad yn awyddus i glywed am weithgareddau sydd i’w cynnal ar draws y wlad ac i godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol. Bydd Swyddog Ymgyrchoedd Dathlu’r Gymraeg, Elin Lenny, yn cadw cofnod o’r holl ddigwyddiadau. Mae modd cysylltu ag Elin trwy’r e-bost shwmaeelin@gmail.com.

    Mae adnoddau digidol i hwyluso’r broses o hyrwyddo eich digwyddiad ar gael o’r wefan.

     

    Rhowch gynnig arni!

    13/09/2016
  • Hystings Y Gymraeg

    2016 Hystings

    Y GYMRAEG 2016 – 2021

    HYSTINGS CENEDLAETHOL

    HAWL I HOLI YMGEISWYR

    Y CYNULLIAD

    7.30yh NOS LUN, 29 CHWEFROR 2016

    YR HEN LYFRGELL, YR AIS, CAERDYDD

    Cadeirydd: Owain Phillips

    Alun Davies     – Llafur

    Suzy Davies     – Ceidwadwyr

    Aled Roberts    – Democratiaid Rhyddfrydol

    Glyn Wise               – Plaid Cymru

     

    Trefnir y noson gan Dathlu’r Gymraeg.

    Gwahoddir cwestiynau ymlaen llaw.

    Am fwy o wybodaeth cysylltwch a

    gwybodaeth@dathlu.cymru neu 07912175403

     

    www.dathlu.cymru

    15/02/2016
  • Diwrnod Shwmae Su’mae yn agosau

    Gyda llai na phythefnos at Ddiwrnod Shwmae Su’mae, mae cyffro mawr yma. Cynnwrf yn adeiladu ar gyfryngau cymdeithasol hefyd, cofiwch rannu/ail-drydar neu ddefnyddio’r hashnod #ShwmaeSumae.

    Mae llwyth o adnoddau ar wefan www.shwmae.cymru er mwyn hwyluso gweithgareddau, atodaf ambell enghraifft, gan gynnwys y gwaith celf arbennig gan un o bencampwyr eleni, Swci Delic.

    Mae’r rhestr o weithgareddau yn prysur lenwi – oes cynlluniau gyda chi i rannu?

    shwmae-swci2016Mae ychydig o sticeri a chardiau post ar gael os oes diddordeb, rhaid bod yn gyflym, galw mawr amdanynt. Mae modd rhannu’r gwaith celf os diddordeb mewn argraffu mwy.

    03/10/2016
  • Gweithredu’r Ddeddf Iaith

    Heddiw, 30 Mawrth, mae Dathlu’r Gymraeg yn falch i weld fod Deddf Iaith 2011 yn cael ei weithredu. Mae’r Ddeddf yn datgan na ddylid trin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau newydd a ddaw i rym heddiw yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth, y Cynghorau Sirol a’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol i weithredu yn gadarnhaol ac i gynnig darpariaeth lawn. Mae’r pwyslais wedi symud oddi wrth yr unigolyn a’r cyfrifoldeb nawr ar y cyrff statudol i ddarparu’r gwasanaeth.

    Mae Safonau’r Ddeddf Iaith yn gosod rheolau ar gyflenwi gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys cyfarfodydd personol a chyhoeddus a hyfforddiant. Disgwylir i’r cyrff roi cyhoeddusrwydd eang i’r ddarpariaeth newydd.

    Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, “Mae’r broses o weithredu’r Ddeddf Iaith wedi cymryd amser hir ond nawr mae’r gwaith o ddatblygu’r darpariaeth yn gallu dechrau. Byddwn yn annog pobl i ofyn am y gwasanaethau newydd fydd ar gael ac am i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried unrhyw fethiant i weithredu. Mae’n hen bryd fod y Gymraeg yn cael statws cyfartal â’r Saesneg a  does dim esgus i beidio gweithredu’r Safonau newydd. Byddwn yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i roi gwybod am y newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf Iaith.”

     

    Crynodeb o’r hawliau gan Gymdeithas yr Iaith

    crynodebhawliau2016

    Dywed Comisiynydd y Gymraeg

    Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonau’r Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.

    Mae’r safonau’n creu hawliau newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

    Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol yw’r sefydliadau cyntaf i weithredu’r safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg ôl-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.

    Mae safonau’n seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i  gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau sy’n gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.

    I ddysgu mwy am eich hawliau ewch i’r dudalen ‘Hawliau i Ddefnyddio’r Gymraeg’ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu’n ysgrifenedig (manylion islaw).

     

    30/03/2016
  • Toriadau yng Nghyllideb yr Iaith Gymraeg

    Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried y toriadau a fwriedir i gyllideb Yr Iaith Gymraeg. Mae’r gyllideb drafft yn dangos cwymp sylweddol yn yr arian ar gyfer gwaith y Llywodraeth yn hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n fwriad i gwtogi’r gyllideb o £8.6m i £6.9m.  Mae hyn yn doriad arfaethedig o 19% i’r gyllideb ar gyfer prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg. I leihau’r effaith mae’r Llywodraeth yn ystyried neilltuo £1.2m  o gyllidebau eraill ond nid yw hyn yn eglur ac ni fydd yn ddigon i gynnal y gwaith presennol.     

    Mae Dathlu’r Gymraeg, grŵp ymbarél o fudiadau iaith, wedi dweud bod y toriadau i’r gyllideb drafft yn cryfhau’r achos dros fabwysiadu targed hir dymor ar gyfer buddsoddi yn y Gymraeg.   Mae maniffesto Dathlu’r Gymraeg ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn gofyn i’r pleidiau gynllunio buddsoddi 1% o gyllideb Cymru mewn mentrau i hybu’r Gymraeg, yr un canran â Gwlad y Basg lle bu twf cyson yn nifer y siaradwyr Basgeg dros y degawdau diwethaf.   

    Meddai Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, sy’n cynrychioli dros ugain o fudiadau iaith:  

    “Mae’r toriadau hyn yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth nesaf Cymru osod allan targed o ran canran o’r gyllideb a fuddsoddir yn y Gymraeg. Mae targed o 1% yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol ac yn dangos ymrwymiad clir iddi. Fel iaith leiafrifol, mae angen sicrwydd a sefydlogrwydd dros gyfnod eithaf hir er mwyn cynllunio a gallu cael canlyniadau. Rydyn ni wedi gweld cynseiliau mewn meysydd eraill ar lefel Brydeinig, megis datblygu rhyngwladol, a sut mae targed o’r fath yn gallu cynnig sefydlogrwydd hir dymor. Er enghraifft, mae’n anodd gweld sut allai Comisiynydd y Gymraeg weithredu’n annibynnol yn effeithiol os yw’r toriadau yn parhau.   

    “Wrth reswm, mae cryn bryder o ran gallu’r Llywodraeth i gyflawni eu hamcanion o ran y Gymraeg, os oes toriadau o’r fath yn digwydd. Yn wir, mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb yn bodloni ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau ffyniant y Gymraeg.” 

    Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i sicrhau fod modd i gadw’r gwariant ar y Gymraeg ar ei lefel presennol ac edrych ar ffyrdd o ehangu’r darpariaeth yn y dyfodol.

    Cyllideb Drafft 2016

     

    18/12/2015