Gyda chylch gorchwyl S4C a’i fformiwla ariannu yn cael ei adolygu ar gyfer y cyfnod wedi 2017 a’r disgwyliad i’r Llywodraeth gyhoeddi cynnig ynghylch hyn yn y flwyddyn newydd mae maes darlledu yn bwnc trafod amserol a pherthnasol. Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i alw am ddiogelu a chynyddu cyllid S4C ond hefyd i annog meddwl mwy creadigol o ran datblygu defnydd a phresenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau ac ar lwyfannau digidol yn ehangach.
9 Tachwedd 2017
Nod y diwrnod fydd datblygu a hwyluso’r drafodaeth drwy gynnig fforwm i arbenigwyr yn y maes er mwyn gwyntyllu syniadau a dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol sydd yn yr arfaeth.
Bydd hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol am gyfraniad allweddol y maes pwysig hwn o ran dyfodol y Gymraeg.
I archebu lle mae angen llenwi’r ffurflen gofrestru sydd ar gael dros ebost a’i dychwelyd erbyn Tachwedd 3dydd.
Cysylltwch drwy ebostio:
swyddfa@dathlu.org
Cost i gynadleddwyr
Cynrychiolwyr aelodau Mudiad Dathlu’r Gymraeg £20 Sefydliadau eraill £30