Galw ar y Prif Weinidog i weithredu er mwyn hybu’r iaith Gymraeg

Ar 5 Mawrth bu cynrychiolaeth o Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn cwrdd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, i alw am ymateb cryf i ganlyniadau’r Cyfrifiad ac i weithredu yn gadarn i hybu’r iaith Gymraeg. Datganwyd pryder nad oes camau clir mewn golwg i ymateb i’r her o sicrhau dyfodol y Gymraeg. Erbyn hyn mae nifer o adolygiadau ar gyflwr yr iaith a gomisiynwyd gan y Llywodraeth wedi eu cyhoeddi a’r argymhelliad clir sy’n cael ei gyfleu yw fod angen adnoddau ychwanegol i wella’r ddarpariaeth i hybu’r Gymraeg.

Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr, “Roedd bwrlwm o syniadau a brwdfrydedd yn y Gynhadledd Fawr a gynhaliwyd y flwyddyn diwethaf ond rydym yn parhau i aros i’r Llywodraeth weithredu. Mae cymunedau Cymraeg yn dioddef o ddiffyg adnoddau a gweithgareddau cymdeithasol”.

Roedd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC, yn pryderu am effaith toriadau llywodraeth leol ar addysg Gymraeg. “Bydd toriadau yn y gwasanaethau cludiant yn effeithio ar allu rhieni i ddanfon eu plant i gael addysg cyfrwng Cymraeg. Mae angen i’r Llywodraeth sicrhau fod eu polisïau yn rhoi cyfle teg i bawb gael addysg yn eu dewis iaith. Hefyd mae angen sicrhau fod hyfforddiant ar gael i ddarparu gweithlu priodol ar gyfer y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ein hysgolion”.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd  Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, “Mae angen i ni fod yn hyderus am ddyfodol yr iaith, gallwn ni ddim fforddio aros cyn gweithredu. Mae cefnogaeth o bob plaid yn y Cynulliad i’r Gymraeg ac mae’n bwysig fod y Cynghorau Sir hefyd yn sicrhau darpariaeth deg.

“Roedd y Prif Weinidog yn amlwg yn sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa ac am ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o weithredu.

“Does dim diffyg syniadau na gweledigaeth” meddai Penri Williams, “Mae’r Mudiadau wedi creu rhestr o dros 50 o gamau gellir eu gweithredu, llawer drwy weithio gyda’r cyllid presennol ac eraill lle mae angen buddsoddiad ychwanegol i roi cyfleon i ddefnyddio’r iaith.”

Cred Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.  Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn trefnu cynhadledd ym mis Mai gan ddisgwyl y bydd cynlluniau y Llywodraeth wedi eu cyhoeddi erbyn hynny. Bwriad y Gynhadledd fydd ymchwilio i sut allwn sicrhau fod y Gymraeg yn rhan ganolog o ddarpariaeth y Llywodraeth, y Cynghorau Sir a chyrff cyhoeddus eraill.