Mae’r Mentrau Iaith yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ar draws Cymru gyfan, i siaradwyr a dysgwyr o bob oed, a fyddai fel arall yn cael llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Fodd bynnag, mae adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes digon o adnoddau gan y mentrau – a bod angen eu hariannu’n well.
Mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru gymryd yr adroddiad hwn o ddifrif ac ymateb yn gadarnhaol iddo.
Mae’r lobi iaith, Dyfodol, wedi cyflwyno deiseb electronig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan alw arno i gefnogi’r Mentrau – ac i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i’w hariannu’n deg.
Llofnodwch y ddeiseb, os gwelwch yn dda!