Mae dros ddwsin o unigolion a sefydliadau wedi erfyn ar i’r Gweinidog Addysg newid y cwricwlwm fel bod pob plentyn yn dod yn rhugl yn Gymraeg mewn llythyr agored ato.
Fe ddaw’r ple cyn i adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm gael ei gyhoeddi’r wythnos hon. Ymysg llofnodwyr y llythyr mae’r Archdderwydd Christine James, sydd wedi dysgu Cymraeg ei hunan, ynghyd â phrif swyddogion Mudiad Meithrin, Cynghrair Cymunedau Cymraeg, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru a’r undeb athrawon UCAC.
Wrth gyfeirio at y cwricwlwm newydd, dywed y llythyr: “Cytunwn [gyda’r Llywodraeth] fod angen ei wreiddio ar werthoedd Cymru, gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb i bob plentyn – o ba gefndir bynnag y dônt. Fel mudiadau a phoblsy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o ddydd i ddydd, rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adroddiad yn bwriadu gwireddu uchelgais y Prif Weinidog, a nodwyd ganddo ym mis Awst y llynedd, sef bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus”.
“Cytunwn yn llwyr â Carwyn Jones y dylai pob plentyn ddod yn rhugl yn Gymraeg – nid yw’n deg amddifadu’r un plentyn o’r sgil o allu cyfathrebu yn yr iaith. Rydym yn hynod o falch bod yr Athro Donaldson eisoes wedi awgrymu y bydd y Gymraeg yn un o egwyddorion craidd ei argymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Llythyr
Annwyl Weinidog
Ysgrifennwn er mwyn datgan ein cefnogaeth i’ch dyhead ar gyfer adolygiad yr Athro Donaldson o’r cwricwlwm. Cytunwn fod angen ei wreiddio ar werthoedd Cymru, gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb i bob plentyn – o ba gefndir bynnag y dônt. Fel mudiadau a phobl sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o ddydd i ddydd, rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adroddiad yn bwriadu gwireddu uchelgais y Prif Weinidog, a nodwyd ganddo ym mis Awst y llynedd, sef bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus”.
Cytunwn yn llwyr â Carwyn Jones y dylai pob plentyn ddod yn rhugl yn Gymraeg – nid yw’n deg amddifadu’r un plentyn o’r sgil o allu cyfathrebu yn yr iaith. Rydym yn hynod o falch bod yr Athro Donaldson eisoes wedi awgrymu y bydd y Gymraeg yn un o egwyddorion craidd ei argymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Tra’n credu na ddylid amddifadu unrhyw blentyn o addysg Gymraeg, rydym yn gwbl gefnogol o argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies ynghylch sut mae’r iaith yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld sut mae Graham Donaldson yn argymell gweithredu’r cynigion hynny cyn gynted â phosibl. Fel dywedodd yr Athro Davies yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013: “Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”
Hoffem dynnu eich sylw at ddau o argymhellion yr Athro Davies y credwn y dylid eu blaenoriaethu, sef:
“…defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog … O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith.”
“… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”
Gobeithiwn y bydd cyfle, yn ystod y gyfres o gyfarfodydd mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cynnal wedi cyhoeddiad adroddiad yr Athro Donaldson, i drafod yn benodol gyda chi a’r Athro Donaldson oblygiadau’r argymhellion. Yn sicr, mae angen i ni gydweithio er mwyn cynllunio ar gyfer twf yn nifer siaradwyr y Gymraeg a’r twf o ran defnydd yr iaith yn ein cymunedau rydyn ni i gyd am ei weld dros y blynyddoedd i ddod.
Yr eiddoch yn gywir,
Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr
Meirion Davies, Cadeirydd, Mentrau Iaith Cymru
CAER (Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau)
Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin
Craig ab Iago, Cadeirydd, Cynghrair Cymunedau Cymraeg
Dr Huw Thomas, arbenigwr ar ysgolion Cymraeg
Gerald Latter, Cadeirydd, Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg
Eleri Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
Miriam Williams, Llywydd, Undeb Myfryrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA)
Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC
Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol, RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg)
Bethan Whittall ac Arwel George, CYDAG
Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Penri Williams, Cadeirydd, Dathlu’r Gymraeg
Yr Athro Christine James, Archdderwydd Cymru