Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried y toriadau a fwriedir i gyllideb Yr Iaith Gymraeg. Mae’r gyllideb drafft yn dangos cwymp sylweddol yn yr arian ar gyfer gwaith y Llywodraeth yn hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n fwriad i gwtogi’r gyllideb o £8.6m i £6.9m. Mae hyn yn doriad arfaethedig o 19% i’r gyllideb ar gyfer prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg. I leihau’r effaith mae’r Llywodraeth yn ystyried neilltuo £1.2m o gyllidebau eraill ond nid yw hyn yn eglur ac ni fydd yn ddigon i gynnal y gwaith presennol.
Mae Dathlu’r Gymraeg, grŵp ymbarél o fudiadau iaith, wedi dweud bod y toriadau i’r gyllideb drafft yn cryfhau’r achos dros fabwysiadu targed hir dymor ar gyfer buddsoddi yn y Gymraeg. Mae maniffesto Dathlu’r Gymraeg ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn gofyn i’r pleidiau gynllunio buddsoddi 1% o gyllideb Cymru mewn mentrau i hybu’r Gymraeg, yr un canran â Gwlad y Basg lle bu twf cyson yn nifer y siaradwyr Basgeg dros y degawdau diwethaf.
Meddai Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, sy’n cynrychioli dros ugain o fudiadau iaith:
“Mae’r toriadau hyn yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth nesaf Cymru osod allan targed o ran canran o’r gyllideb a fuddsoddir yn y Gymraeg. Mae targed o 1% yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol ac yn dangos ymrwymiad clir iddi. Fel iaith leiafrifol, mae angen sicrwydd a sefydlogrwydd dros gyfnod eithaf hir er mwyn cynllunio a gallu cael canlyniadau. Rydyn ni wedi gweld cynseiliau mewn meysydd eraill ar lefel Brydeinig, megis datblygu rhyngwladol, a sut mae targed o’r fath yn gallu cynnig sefydlogrwydd hir dymor. Er enghraifft, mae’n anodd gweld sut allai Comisiynydd y Gymraeg weithredu’n annibynnol yn effeithiol os yw’r toriadau yn parhau.
“Wrth reswm, mae cryn bryder o ran gallu’r Llywodraeth i gyflawni eu hamcanion o ran y Gymraeg, os oes toriadau o’r fath yn digwydd. Yn wir, mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb yn bodloni ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau ffyniant y Gymraeg.”
Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i sicrhau fod modd i gadw’r gwariant ar y Gymraeg ar ei lefel presennol ac edrych ar ffyrdd o ehangu’r darpariaeth yn y dyfodol.