Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Cynulliad i gryfhau’r Bil Cynllunio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod ystyriaeth ddigonol i effaith cynllunio ar yr iaith Gymraeg yn ein Cymunedau.
Nid yw’r Bil a gyflwynwyd i’r Cynulliad ar 6ed Hydref 2014 yn newid statws y Gymraeg o fewn y system gynllunio o gwbl. Dim ond un cyfeiriad sydd at yr iaith wrth sicrhau fod “panel cynllunio strategol’ newydd yn cydymffurfio â’r safonau iaith newydd
Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Cynulliad i ddiwygio’r Bil i gynnwys
- gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith ar yr iaith;
- gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer rhai datblygiadau;
- sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol;
- gosod llwybr a fframwaith er mwyn i’r Gymraeg ddod yn brif iaith gymunedol ar hyd a lled y wlad; a
- sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol, yn lle cyrraedd targedau tai cenedlaethol wedi ei seilio ar batrymau hanesyddol a rheoli tir mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg
Mae crynodeb a gyhoeddwyd o drafodaethau’r Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf 2013 yn galw am newidiadau i’r sustem gynllunio ac yn dweud mai symudoledd poblogaeth yw’r ‘her gyfredol fwyaf’ i’r iaith.
Mae Cyfrifiad 2011 yn dangos gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol lle’r oedd dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg: gostyngiad o 54 ardal yn 2001 i 39 ardal yn 2011. Roed cwymp yn nifer y bobl yng Nghymru dros 3 oed sy’n siarad Cymraeg, o 20.76% o’r boblogaeth yn 2001 i 19% yn 2011.
Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddogfen bolisi “Bwrw Mlaen” lle addawodd ystyried ‘pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio’.
Anfonodd Comisiynydd y Gymraeg gyngor ysgrifenedig at y Llywodraeth ynghylch y Bil gan nodi mai dim ond hanner cynghorau sir Cymru sydd wedi cynnwys polisïau iaith Gymraeg yn eu cynlluniau datblygu lleol.
Mae targedau tai cenedlaethol yn creu problemau i’r Gymraeg ac anfodlonrwydd mewn nifer o gymunedau megis ym Modelwyddan, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Mae angen dileu’r targedau tai ac, yn eu lle, seilio’r system ar anghenion lleol yn unig.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth a’r Cynulliad i gynnwys ystyriaeth lawn i’r iaith Gymraeg ym maes Cynllunio.