Diwrnod Shwmae Sumae! Hydref 15ed 2014

Lansiwyd Diwrnod Shwmae Su’mae 2014 (#DSS2014) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar ym mis Awst a hyderwn y bydd hyd yn oed mwy yn ymuno yn y dathliadau eleni am yr eil dro neu yn trefnu rhywbeth yn eu broydd am y tro cyntaf ar ddydd Mercher Hydref 15ed.Lansio Shwmae 2014

Ymhlith y pencampwyr iaith newydd mae Martyn Croydon, Dysgwr y Flwyddyn 2014, y prifardd a’r bragwr, Myrddin ap Dafydd, y gyflwynwraig Angharad Mair a’r awdures Bethan Gwanas, Llinos Penfold a Catrin Phillips o Shwmae Sir Benfro, a Rhys Llewelyn, trefnydd Pared Dewi Sant Pen Llyn.

Cafwyd ymateb anhygoel i’r Diwrnod Shwmae Su’mae! cyntaf yn 2013. Cynhaliwyd 150 o weithgareddau o Wrecsam i’r Andes, gan ysgolion, busnesau, cylchoedd dysgwyr a chymdeithasau. Cynhyrchwyd gweithdai rapio yng Ngheredigion, fideos yn Sir Benfro a boreuon coffi yn Nyffryn Nantlle. Ac mae pethau yn addo berwi drosodd eleni gan bod criw Sir Benfro wedi trefnu seremoni wobrwyo I bobl sydd wedi cyfrannu tuag at Gymreictod y sir. Ac mae disyblion Ysgol yr Archesgob McGrath ym Mhenybont eisioes yn gweithio ar syniadau

Ymgyrch llawr gwlad yw hi sy’n gweithredu heb unryw nawdd ac sy’n dangos fod y Gymraeg yn perthyn I bawb.

Dywed Catrin Dafydd ar ran Dathlu’r Gymraeg:

“Roedd brwdfrydedd pawb llynedd yn ysbrydoliaeth ac wedi ysgogi gwaddol hir dymor. O ganlyniad I fore coffi mewn un ysgol penderfynodd y rhieni di-Gymraeg gychwyn dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion.

“Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Mae rhai Canolfannau Dysgu Cymraeg I Oedolion yn brysur yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Hydref 15ed. Ond nid diwrnod I ddysgwyr yn unig yw hwn. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb I ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.Shwmae Sumae 15Hydref

“Mae diwrnod Shwmae Sumae yn ddiwrnod I annog pawb yng Nghymru I fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn I bawb sydd wedi gwneud Cymru’n gartref. A gennym ni bobl Cymru mae’r grym I gadw’r Gymraeg yn fyw. Gall pawb fod yn rhan o’r daith o’r eiliad y byddwn yn dweud shwmae neu su’mae ar ddechrau sgwrs, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o Gymraeg sydd gennym.”