Papur Gwyn ar Anghenion Dysgu Arbennig

DATGANIAD I’R WASG. PRESS RELEASE

Anghenion Dysgu Arbennig – ond dim ystyriaeth i anghenion ieithyddol

Mae Dathlu’r Gymraeg wedi ymateb yn feirniadol i Bapur Gwyn gan Lywodraeth Cymru sy’n diwygio’r drefn ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg “Er bod y cynigion yn gyffredinol synhwyrol, mae’r Papur Gwyn yn gwbl ddiffygiol mewn perthynas ag anghenion ieithyddol. Heblaw am un cyfeiriad byr at Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth, nid oes yr un cyfeiriad arall at y Gymraeg yn y ddogfen.

“Mae anghenion dysgu ychwanegol yn faes ble y gwyddom o brofiad bod teuluoedd yn cael anawsterau i dderbyn darpariaeth yn y Gymraeg. Byddai diwygio’r drefn yn rhoi cyfle euraidd i sicrhau gwell darpariaeth – ac i roi hawl i dderbyn y gwasanaeth yn y Gymraeg. Ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle, nac hyd yn oed wedi cydnabod yr anawsterau a’r galw presennol.

“Mae’r ddiffyg sylw llwyr i’r Gymraeg ac anghenion ieithyddol y plant hyn yn dipyn o sioc, a byddwn, fel mudiadau ar y cyd, yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod cyfeiriadau priodol yn y Mesur drafft pan gaiff ei gyhoeddi yn yr hydref.”