Archif Awdur: Golygydd

Diwrnod Shwmae Su’mae?

Shwmae Su’mae?

Gyda Diwrnod Shwmae Su’mae  yn prysur agosáu, rydym ni  yn awyddus i sicrhau mai Diwrnod Shwmae Su’mae 2016 yw’r gorau eto. Mae llwyddiant yn ddibynnol ar ymroddiad unigolion a sefydliadau ledled Cymru, a hoffwn eich gwahodd i gynnal gweithgaredd a dathlu’r achlysur gyda ni ar 15 Hydref.2016taflen-shwmae

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae 2016 ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf eleni. Cyflwyna hyn gyfle i blethu’r dathliadau gyda gweithgareddau hamdden,  ar y cae chwarae neu ar y stryd fawr. Annogir gweithleoedd neu sefydliadau addysg i ddathlu ar y dydd Gwener, fel nad ydynt yn colli cyfle gwerthfawr i fod yn rhan o’r hwyl.

Yn unol ag ethos Diwrnod Shwmae Su’mae, croesawir unrhyw fath o weithgaredd. Boed yn grŵp bach yn dod at ei gilydd, neu rhywbeth torfol, anferthol. Y peth pwysig yw nodi’r achlysur mewn ffordd sy’n meddwl rhywbeth i chi, rhywbeth sy’n hwyl ac yn gynhwysol.

Eisiau cymryd rhan? Ddim yn siwr sut i fynd o’i hamgylch. Heb benderfynu sut i nodi’r achlysur eto? Dyma esiamplau o weithgareddau sydd ar waith er mwyn eich ysbrydoli;

  • Bore coffi / Sesiwn coffi a chlonc
  • Fflachdorf
  • Gweithdai
  • Rhedeg busnes? Beth am gynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy’n dechrau sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae?

Am syniad o be sy ‘mlaen ledled y wlad, ewch i wefan www.shwmae.cymru neu dilyn cyfrif Trydar @ShwmaeSumae. Defnyddiwch yr hashnod #ShwmaeSumae wrth hyrwyddo eich digwyddiad.

Mudiad ambarél Dathlu’r Gymraeg sy’n ysgogi’r gweithgaredd, ond mae’r diwrnod yn eiddo i bawb. Mae’r mudiad yn awyddus i glywed am weithgareddau sydd i’w cynnal ar draws y wlad ac i godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol. Bydd Swyddog Ymgyrchoedd Dathlu’r Gymraeg, Elin Lenny, yn cadw cofnod o’r holl ddigwyddiadau. Mae modd cysylltu ag Elin trwy’r e-bost shwmaeelin@gmail.com.

Mae adnoddau digidol i hwyluso’r broses o hyrwyddo eich digwyddiad ar gael o’r wefan.

 

Rhowch gynnig arni!

Gweithredu’r Ddeddf Iaith

Heddiw, 30 Mawrth, mae Dathlu’r Gymraeg yn falch i weld fod Deddf Iaith 2011 yn cael ei weithredu. Mae’r Ddeddf yn datgan na ddylid trin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau newydd a ddaw i rym heddiw yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth, y Cynghorau Sirol a’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol i weithredu yn gadarnhaol ac i gynnig darpariaeth lawn. Mae’r pwyslais wedi symud oddi wrth yr unigolyn a’r cyfrifoldeb nawr ar y cyrff statudol i ddarparu’r gwasanaeth.

Mae Safonau’r Ddeddf Iaith yn gosod rheolau ar gyflenwi gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys cyfarfodydd personol a chyhoeddus a hyfforddiant. Disgwylir i’r cyrff roi cyhoeddusrwydd eang i’r ddarpariaeth newydd.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, “Mae’r broses o weithredu’r Ddeddf Iaith wedi cymryd amser hir ond nawr mae’r gwaith o ddatblygu’r darpariaeth yn gallu dechrau. Byddwn yn annog pobl i ofyn am y gwasanaethau newydd fydd ar gael ac am i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried unrhyw fethiant i weithredu. Mae’n hen bryd fod y Gymraeg yn cael statws cyfartal â’r Saesneg a  does dim esgus i beidio gweithredu’r Safonau newydd. Byddwn yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i roi gwybod am y newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf Iaith.”

 

Crynodeb o’r hawliau gan Gymdeithas yr Iaith

crynodebhawliau2016

Dywed Comisiynydd y Gymraeg

Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonau’r Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.

Mae’r safonau’n creu hawliau newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol yw’r sefydliadau cyntaf i weithredu’r safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg ôl-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.

Mae safonau’n seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i  gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau sy’n gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.

I ddysgu mwy am eich hawliau ewch i’r dudalen ‘Hawliau i Ddefnyddio’r Gymraeg’ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu’n ysgrifenedig (manylion islaw).

 

Hystings Y Gymraeg

2016 Hystings

Y GYMRAEG 2016 – 2021

HYSTINGS CENEDLAETHOL

HAWL I HOLI YMGEISWYR

Y CYNULLIAD

7.30yh NOS LUN, 29 CHWEFROR 2016

YR HEN LYFRGELL, YR AIS, CAERDYDD

Cadeirydd: Owain Phillips

Alun Davies     – Llafur

Suzy Davies     – Ceidwadwyr

Aled Roberts    – Democratiaid Rhyddfrydol

Glyn Wise               – Plaid Cymru

 

Trefnir y noson gan Dathlu’r Gymraeg.

Gwahoddir cwestiynau ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a

gwybodaeth@dathlu.cymru neu 07912175403

 

www.dathlu.cymru

Toriadau yng Nghyllideb yr Iaith Gymraeg

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried y toriadau a fwriedir i gyllideb Yr Iaith Gymraeg. Mae’r gyllideb drafft yn dangos cwymp sylweddol yn yr arian ar gyfer gwaith y Llywodraeth yn hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n fwriad i gwtogi’r gyllideb o £8.6m i £6.9m.  Mae hyn yn doriad arfaethedig o 19% i’r gyllideb ar gyfer prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg. I leihau’r effaith mae’r Llywodraeth yn ystyried neilltuo £1.2m  o gyllidebau eraill ond nid yw hyn yn eglur ac ni fydd yn ddigon i gynnal y gwaith presennol.     

Mae Dathlu’r Gymraeg, grŵp ymbarél o fudiadau iaith, wedi dweud bod y toriadau i’r gyllideb drafft yn cryfhau’r achos dros fabwysiadu targed hir dymor ar gyfer buddsoddi yn y Gymraeg.   Mae maniffesto Dathlu’r Gymraeg ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn gofyn i’r pleidiau gynllunio buddsoddi 1% o gyllideb Cymru mewn mentrau i hybu’r Gymraeg, yr un canran â Gwlad y Basg lle bu twf cyson yn nifer y siaradwyr Basgeg dros y degawdau diwethaf.   

Meddai Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, sy’n cynrychioli dros ugain o fudiadau iaith:  

“Mae’r toriadau hyn yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth nesaf Cymru osod allan targed o ran canran o’r gyllideb a fuddsoddir yn y Gymraeg. Mae targed o 1% yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol ac yn dangos ymrwymiad clir iddi. Fel iaith leiafrifol, mae angen sicrwydd a sefydlogrwydd dros gyfnod eithaf hir er mwyn cynllunio a gallu cael canlyniadau. Rydyn ni wedi gweld cynseiliau mewn meysydd eraill ar lefel Brydeinig, megis datblygu rhyngwladol, a sut mae targed o’r fath yn gallu cynnig sefydlogrwydd hir dymor. Er enghraifft, mae’n anodd gweld sut allai Comisiynydd y Gymraeg weithredu’n annibynnol yn effeithiol os yw’r toriadau yn parhau.   

“Wrth reswm, mae cryn bryder o ran gallu’r Llywodraeth i gyflawni eu hamcanion o ran y Gymraeg, os oes toriadau o’r fath yn digwydd. Yn wir, mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb yn bodloni ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau ffyniant y Gymraeg.” 

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i sicrhau fod modd i gadw’r gwariant ar y Gymraeg ar ei lefel presennol ac edrych ar ffyrdd o ehangu’r darpariaeth yn y dyfodol.

Cyllideb Drafft 2016

 

Y Scarlets ac eraill yn Gweidddi Shwmae Sumae

Logo Scarlets

Ar ddydd Iau, Hydref 15ed cynhelir y trydydd Diwrnod Shwmae Sumae ac unwaith eto bydd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal ar draws y wlad I annog pobl I gyfarch pawb gyda “Shwmae” neu “Su’mae”.

Nôd yr ymgyrch yw:
gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus,
dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu hyfedredd
ac o ganlyniad annog a sicrhau defnydd o’r Gymraeg drwy’r flwyddyn.

Bu’r ymgyrch yn lwcus iawn i dderbyn cefnogaeth unigolion a sefydliad deinamig tu hwnt eleni. Pencampwyr 2015 yw’r diddanwr y Welsh Whisperer, Gareth Wyn Jones y ffermwr a’r darlledwr o Lanfairfechan, criw Canolfan Soar Merthyr Tudful sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r ardal ac Angharad Williams sy’n rhedeg siopau Lan Llofft yn Llambed a Machynlleth.Gareth WJ

Meddai Gareth Wyn Jones:
“mae’n gret I fod yn rhan o ymgyrch Sumae sy’n annog pobl i siarad Cymraeg, peidwch a bod yn swil rhowch gynnig. Rwyf yn gwneud fy ngorau i hyrwyddo y Gymraeg a fel ffermwr mae’r iaith yn rhan allweddol o’n diwylliant a’n diwydiant cefn gwlad. Mae’n bwysig ei defnyddio bob dydd. Os na wnewn ni pwy fydd?”

Welsh WhispMeddai y Welsh Whisperer, sy’n droellwr recordiau ar Môn FM:
“Rwy’n falch iawn I fod yn rhan o’r ymgyrch i hybu’r iaith ac agor drysau i pobol di-Gymraeg a’u croesawu yn gynnes i ddysgu’r iaith. Mae’n braf bod yn rhan o’r un ymgyrch â ffarmwr enwocaf Cymru (na, nid Dai Llanilar ond) Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan! Mae’r ddau ohonom yn gwisgo cap stabal yn rheolaidd, yn angerddol dros yr iaith, cymunedau Cymru a chwrw Cymreig wrth gwrs.”

AngharadDywedodd y wraig fusnes Angharad Williams:
“ Rwy’n browd iawn I helpu hybu y diwrnod a lledaenu’r neges I ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg. Mae defnyddio y Gymraeg mewn siop gymuedol fel Lan Llofft a Duet yn angenrheidiol mewn ardal fel Llanbed. Yn naturiol rydym eisiau croesawu cwsmeriaid yn y Gymraeg ac mae’n gam naturiol i ddefnyddio yr iaith ar ein cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad rydym wedi cael mwy o gefnogaeth gan ein cwsmeriaid am eu bod nhw eisiau cefnogi busnesau lleol Cymraeg. “

Bydd Clwb Rygbi y Scarlets yn cefnogi y diwrnod hefyd drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ar y nos Wener ganlynol, cyn y gêm bwysig rhwng y Scarlets a Leinster ar Hydref 16eg. Gyda chydweithrediad Menter Gwendraeth Elli, mentrau lleol eraill a’r Lle (canolfan iaith newydd Llanelli) bydd amrywiaeth o adloniant yn cael ei ddarparu ar gyfer y teulu cyfan rhwng 5 a 7 o’r gloch. Felly gwnewch nodyn ohonno yn eich dyddiaduron.

Yn Sir Benfro mae criw Shwmae yn trefnu yr ail seremoni wobrwyo ar ðl llwyddiant y seremoni llynedd. Nid yw Diwrnod Shwmae Sumae yn derbyn unryw nawdd na arian grant I hybu’r ymgyrch, mae’i gyd yn nwylo unigolion brwdfrydig, fel plant Ysgol Archesgob Mcgrath, Peynbont-ar-Ogwr sydd bellach wedi cymryd y cyfrifoldeb am drefnu y digwyddiad eu hunain. Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Rhowch gynnig arni!

Shwmae Sumae 2015

2015 ShwmaeShwmae a Sumae! Mae’n fis Medi unwaith eto a dyma ni yn dechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Shwmae Sumae 2015. Ry’ ni wedi cyrraedd yr entrychion gyda llaw – Dyddiadur y Lolfa 2016 – Hwre!

Roedd Diwrnod Shwmae Sumae 2014 yn llwyddiant ysgubol, gyda dathliadau yn digwydd ledled Cymru a thu hwnt – ym Mhwllheli, Casnewydd, Merthyr, Llambed, Vienna, Y Wladfa, Bangor, Amlwch, Derby, Fflint a sir Benfro. Pawb yn gweithio yn galed i godi proffeil yr iaith, ond yn bwysicach oll ei defnyddio a’i hyrwyddo ac annog eraill i wneud hefyd drwy gydol y flwyddyn.

Erbyn hyn mae gan Diwrnod Shwmae Sumae momentwm ei hun ac mae’n lledaenu ar hyd y wlad drwy gweithgareddau amrywiaeth o gyrff, ysgolion, unigolion a chymdeithasau, fel ton Mexican mewn gêm bêldroed. Mae’n anodd iawn cadw cyfrif ar bobpeth sy’n digwydd ond o gadw llygad ar yr adborth ar ein tudalen Facebook a chyfrif Twitter rwy’n sicr bod na dros 500 o ddigwyddiadau wedi eu cynnal yn 2014. Felly gobeitho bod hyd yn oed fwy o bethau ar y gweill eleni.

Fel y gwyddoch mae llwyddiant a pharhâd Diwrnod Shwmae Sumae yn eich dwylo chi, felly rhowch wybod inni am eich digwyddiad drwy gysylltu a’n tudalen Facebook a’n dilyn ni ar @ShwmaeSumae. Mae nifer o awgrymiadau a syniadau ar y dudalen facebook i’ch hysbrydoli gobeithio a rhestr o beth ddigwyddodd yn 2014 ar Facebook

Cofiwch gysylltu gyda mi os ydych chi am drafod unrywbeth
Pob hwyl am y tro

Gaynor

gaynorjones@dathlu.org

2015 Llun2

Mudiadau iaith yn galw am achub neuadd Pantycelyn

Mae dros ugain mudiad iaith wedi ysgrifennu at bennaeth Prifysgol Aberystwyth gan bwysleisio gwerth a phwysigrwydd neuaddau preswyl Cymraeg fel pwerdai iaith sy’n atgyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru, yn sgil y bygythiadau diweddar i neuadd Pantycelyn.

Yng ngoleuni’r ymgyrch ddiweddar i ddiogelu Neuadd Pantycelyn, mae mudiadau sydd yn aelodau’r grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch a hefyd yn galw ar brifysgolion Cymru i sicrhau eu bod yn ystyried lles ac anghenion ieithyddol eu myfyrwyr wrth wneud trefniadau llety a phreswylio ar eu cyfer. Dengys ymchwil cymdeithasol-ieithyddol gan arbenigwyr bod cymunedau ble siaredir yr iaith gan dros 70% o’r boblogaeth yn hanfodol bwysig er mwyn cynnal yr iaith fel iaith gymunedol normal. Mae neuaddau preswyl cyfrwng Cymraeg fel Pantycelyn, felly, yn holl bwysig wrth ddatblygu a chefnogi patrymau iaith myfyrwyr.

Mewn llythyr at Ganghellor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, medd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg:

“Rydym fel mudiadau yn galw ar Brifysgol Aberystwyth i ymrwymo’n glir i’r egwyddor sylfaenol o ddarparu llety cyfrwng Cymraeg digonol i’w myfyrwyr a chydnabod yr angen i leoliadau o’r fath gynnwys gofodau cyffredin addas sy’n caniatáu i fywyd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg ffynnu. Felly, erfyniwn arnoch i beidio â chau Neuadd Pantycelyn.

“Mae neuadd breswyl Gymraeg Pantycelyn wedi dod i hawlio safle pwysig ac eiconig ym mywyd cyhoeddus Cymru ac felly dylid parchu’r safle pwysig hwn a harneisio potensial llawn lleoliadau o’r fath er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr o bob rhan o Gymru fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol. Yn wir, mae angen rhagor o leoliadau o’r fath os yw’r Gymraeg i ffynnu dros y degawdau nesaf.

“Teimlwn y dylai Prifysgol Aberystwyth ddatgan eu hymrwymiad yn ddiamwys i gynnal y neuadd breswyl Gymraeg hollbwysig hon a sicrhau bod pob penderfyniad ynghylch y materion hyn yn ystyried anghenion ieithyddol eu myfyrwyr yn llawn.

“Wrth gytuno i ymrwymo i’r egwyddorion hyn, teimlwn fel mudiad y gall y brifysgol sicrhau eu bod yn cynnal ac yn cefnogi ethos Gymraeg gref y Brifysgol.”

 

 

Cynhadledd 2016+

Cynhadledd2015Mae Dathlu’r Gymraeg yn trefnu Cynhadledd Maniffesto a Gweledigaeth i’r Gymraeg 2016+yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd, dydd Mawrth, 16 Mehefin.

Amcan y Gynhadledd yw paratoi Maniffesto a Gweledigaeth i’r Gymraeg 2016+ fydd yn cynnwys ein syniadau i hybu’r Gymraeg a’i diogelu o fewn ein cymunedau.

Er mwyn llunio’r strategaethau bydd y gynhadledd yn  trafod

Trechu Tlodi
Hawliau
Cymuned
Addysg

Mae gwhaoddiad i bawb sydd â diddordeb i gyfrannu a chynnig syniadau ar gyfer datblygu’r Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf.

Am wybodaeth am y gynhadledd ac am ffurflen gofrestru cliciwch yma:

Cynhadledd DG 2015 Cofrestru

Cynhadledd DG 2015 Gwahoddiad

Mudiadau iaith mewn ple ‘peidiwch amddifadu’r un plentyn o’r Gymraeg’

Mae dros ddwsin o unigolion a sefydliadau wedi erfyn ar i’r Gweinidog Addysg newid y cwricwlwm fel bod pob plentyn yn dod yn rhugl yn Gymraeg mewn llythyr agored ato.

Fe ddaw’r ple cyn i adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm gael ei gyhoeddi’r wythnos hon. Ymysg llofnodwyr y llythyr mae’r Archdderwydd Christine James, sydd wedi dysgu Cymraeg ei hunan, ynghyd â phrif swyddogion Mudiad Meithrin, Cynghrair Cymunedau Cymraeg, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru a’r undeb athrawon UCAC.

Wrth gyfeirio at y cwricwlwm newydd, dywed y llythyr: “Cytunwn [gyda’r Llywodraeth] fod angen ei wreiddio ar werthoedd Cymru, gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb i bob plentyn – o ba gefndir bynnag y dônt. Fel mudiadau a phoblsy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o ddydd i ddydd, rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adroddiad yn bwriadu gwireddu uchelgais y Prif Weinidog, a nodwyd ganddo ym mis Awst y llynedd, sef bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus”.

“Cytunwn yn llwyr â Carwyn Jones y dylai pob plentyn ddod yn rhugl yn Gymraeg – nid yw’n deg amddifadu’r un plentyn o’r sgil o allu cyfathrebu yn yr iaith. Rydym yn hynod o falch bod yr Athro Donaldson eisoes wedi awgrymu y bydd y Gymraeg yn un o egwyddorion craidd ei argymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd.

 

Llythyr

Annwyl Weinidog

Ysgrifennwn er mwyn datgan ein cefnogaeth i’ch dyhead ar gyfer adolygiad yr Athro Donaldson o’r cwricwlwm. Cytunwn fod angen ei wreiddio ar werthoedd Cymru, gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb i bob plentyn – o ba gefndir bynnag y dônt. Fel mudiadau a phobl sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o ddydd i ddydd, rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adroddiad yn bwriadu gwireddu uchelgais y Prif Weinidog, a nodwyd ganddo ym mis Awst y llynedd, sef bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus”.

Cytunwn yn llwyr â Carwyn Jones y dylai pob plentyn ddod yn rhugl yn Gymraeg – nid yw’n deg amddifadu’r un plentyn o’r sgil o allu cyfathrebu yn yr iaith. Rydym yn hynod o falch bod yr Athro Donaldson eisoes wedi awgrymu y bydd y Gymraeg yn un o egwyddorion craidd ei argymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Tra’n credu na ddylid amddifadu unrhyw blentyn o addysg Gymraeg, rydym yn gwbl gefnogol o argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies ynghylch sut mae’r iaith yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld sut mae Graham Donaldson yn argymell gweithredu’r cynigion hynny cyn gynted â phosibl. Fel dywedodd yr Athro Davies yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013: “Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”

Hoffem dynnu eich sylw at ddau o argymhellion yr Athro Davies y credwn y dylid eu blaenoriaethu, sef:

“…defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog … O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith.”

“… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”

Gobeithiwn y bydd cyfle, yn ystod y gyfres o gyfarfodydd mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cynnal wedi cyhoeddiad adroddiad yr Athro Donaldson, i drafod yn benodol gyda chi a’r Athro Donaldson oblygiadau’r argymhellion. Yn sicr, mae angen i ni gydweithio er mwyn cynllunio ar gyfer twf yn nifer siaradwyr y Gymraeg a’r twf o ran defnydd yr iaith yn ein cymunedau rydyn ni i gyd am ei weld dros y blynyddoedd i ddod.

Yr eiddoch yn gywir,

Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr

Meirion Davies, Cadeirydd, Mentrau Iaith Cymru

CAER (Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau)

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

Craig ab Iago, Cadeirydd, Cynghrair Cymunedau Cymraeg

Dr Huw Thomas, arbenigwr ar ysgolion Cymraeg

Gerald Latter, Cadeirydd, Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg

Eleri Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Miriam Williams, Llywydd, Undeb Myfryrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA)

Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC

Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol, RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg)

Bethan Whittall ac Arwel George, CYDAG

Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Penri Williams, Cadeirydd, Dathlu’r Gymraeg

Yr Athro Christine James, Archdderwydd Cymru

Angen Cryfhau Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Cynulliad i gryfhau’r Bil Cynllunio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod ystyriaeth ddigonol i effaith cynllunio ar yr iaith Gymraeg yn ein Cymunedau.2014m11CynllunioImg1263

 

Nid yw’r Bil a gyflwynwyd i’r Cynulliad ar 6ed Hydref 2014 yn newid statws y Gymraeg o fewn y system gynllunio o gwbl. Dim ond un cyfeiriad sydd at yr iaith wrth sicrhau fod “panel cynllunio strategol’ newydd yn cydymffurfio â’r safonau iaith newydd

 

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Cynulliad i ddiwygio’r Bil i gynnwys

  • gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith ar yr iaith;
  • gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer rhai datblygiadau;
  • sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol;
  • gosod llwybr a fframwaith er mwyn i’r Gymraeg ddod yn brif iaith gymunedol ar hyd a lled y wlad; a
  • sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol, yn lle cyrraedd targedau tai cenedlaethol wedi ei seilio ar batrymau hanesyddol a rheoli tir mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg

 

Mae crynodeb a gyhoeddwyd o drafodaethau’r Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf 2013 yn galw am newidiadau i’r sustem gynllunio ac yn dweud mai symudoledd poblogaeth yw’r ‘her gyfredol fwyaf’ i’r iaith.

 

Mae Cyfrifiad 2011 yn dangos gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol lle’r oedd dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg: gostyngiad o 54 ardal yn 2001 i 39 ardal yn 2011. Roed cwymp yn nifer y bobl yng Nghymru dros 3 oed sy’n siarad Cymraeg, o 20.76% o’r boblogaeth yn 2001 i 19% yn 2011.

 

Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddogfen bolisi “Bwrw Mlaen” lle addawodd ystyried ‘pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio’.

 

Anfonodd Comisiynydd y Gymraeg gyngor ysgrifenedig at y Llywodraeth ynghylch y Bil gan nodi mai dim ond hanner cynghorau sir Cymru sydd wedi cynnwys polisïau iaith Gymraeg yn eu cynlluniau datblygu lleol.

 

Mae targedau tai cenedlaethol yn creu problemau i’r Gymraeg ac anfodlonrwydd mewn nifer o gymunedau megis ym Modelwyddan, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Mae angen dileu’r targedau tai ac, yn eu lle, seilio’r system ar anghenion lleol yn unig.

 

Rydym yn galw ar y Llywodraeth a’r Cynulliad i gynnwys ystyriaeth lawn i’r iaith Gymraeg ym maes Cynllunio.