Holiadur i Gynyddu Defnydd o’r Iaith

Shw mae!Deddf Cynghorau

Ar ddiwrnod shw mae eleni byddwn i a Grŵp Deddf (Swyddogion Iaith De-Ddwyrain Cymru) yn ddiolchgar iawn os gallech chi ein helpu ni drwy gwblhau’r holiadur byr (iawn!) isod a rhoi i ni eich syniad(au) chi am sut y gallwn ni gynyddu defnydd o’r iaith a chreu ymdeimlad cenedlaethol cryfach.

www.gwnewchypethaubychain.org

Rydym yn chwilio am syniadau gall pob un ohonom eu rhoi ar waith yn rhwydd, yn hytrach na syniadau strategol, gyda’r bwriad o’u cyhoeddi mewn llyfr o’r enw ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar Ddydd Gŵyl Dewi 2014.

Yn y llyfr bydd syniadau pobl Cymru o’r pethau bychain (ond pellgyrhaeddol gobeithio!) y gall pob un ohonom wneud er mwyn Cymreigio Cymru drwy gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith, gyda’r rheiny wedi eu trefnu dan bedwar pennawd ar sail y prif feysydd trosglwyddo iaith sef y gymuned, y gweithle, addysg a’r teulu.

I’ch helpu, dyma ambell esiampl o’r syniadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn drwy’r peilot:

Y Teulu
• Dysgwch a chanwch yr Anthem Genedlaethol!
• Siaradwch Gymraeg â’ch plant.
• Rhowch fathodyn Cymru ar eich car, tractor ayb a chodwch faner yn eich gardd neu bentref .
• Defnyddiwch yr holl wasanaethau Cymraeg sydd ar gael i chi. Gallwch nodi dewis iaith gyda’ch Cyngor lleol, a llwyth o wasanaethau cyhoeddus a phreifat eraill.

Y Gymuned
• Os yn symud i’r ardal, cadwch neu atgyfodwch enw Cymraeg y tŷ neu’r fferm. Peidiwch â’i newid i’r Saesneg.
• Holwch y papur bro neu’r fenter iaith leol i hysbysebu rhywbeth ar eich rhan e.e. digwyddiad, gwerthu rhywbeth ayb.
• Os ydych chi’n gadael neges e.e. i’r postmon, y dyn llaeth neu i ddynodi na ddylai rhywun barcio’n rhywle – gwnewch hynny’n ddwyieithog.
• Ystyriwch agweddau yr ymgeiswyr tuag at y Gymraeg wrth benderfynu dros bwy i fwrw’ch pleidlais.

Addysg
• Anfonwch eich plant i Ysgol Gymraeg.
• Ysgrifennwch at S4C yn gofyn am gynnwys mwy cyfoes sydd o ddiddordeb i bobl ifanc.
• Defnyddiwch yr iaith tu fas i gatiau’r ysgol.
• Os oes rhywun yn eich cylch o ffrindiau sy’n dysgu Cymraeg, ceisiwch beidio â throi i’r Saesneg pan fyddwch chi allan yn cymdeithasu.

Y Gweithle
• Os ydych yn siarad Cymraeg, defnyddiwch fathodyn Iaith Gwaith.
• Gofynnwch i’ch rheolwr am gyrsiau Cymraeg yn y gwaith.
• Peidiwch â barnu pobl yn ôl safon iaith lafar. Mae’r ffaith eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn bwysicach na barn unrhyw blismyn iaith.
• Cyfathrebwch yn ddwyieithog â phawb e.e. e-bost, llythyron ayb os nad ydych yn gwybod eu dewis iaith.

Ar ddiwedd y llyfr bydd rhestr o’r cyrff sy’n darparu gwasanaethau Cymraeg a rhifau ffôn llinellau Cymraeg er mwyn i bawb allu cyfeirio a defnyddio’r gwasanaethau hynny sydd ar gael.

Os ydych chi eisiau gweld eich syniad mewn print yna cwblhewch yr holiadur byr iawn hwn os gwelwch yn dda er mwyn gwneud y pethau bychain gyda’n gilydd.