Am 4 o gloch dydd Llun Awst 4 ym mhod Maes D ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr bydd grwp ymbarél Dathlu’r Gymraeg yn lansio ymgyrch Diwrnod Shwmae Su’mae 2014 (DSS2014) fydd yn cymryd lle unwaith eto eleni ar Hydref 15ed.
Ymhlith y pencampwyr iaith newydd mae Martyn Croydon, Dysgwr y Flwyddyn 2014, y prifardd a’r bragwr, Myrddin ap Dafydd, y gyflwynwraig Angharad Mair a’r awdures Bethan Gwanas ac mae rhagor I ddod.
Cafwyd ymateb anhygoel i’r Diwrnod Shwmae Su’mae! cyntaf yn 2013. Cynhaliwyd 150 o weithgareddau o Wrecsam i’r Andes, gan ysgolion, busnesau, cylchoedd dysgwyr a chymdeithasau. Cynhyrchwyd gweithdai rapio yng Ngheredigion, fideos yn Sir Benfro a boreuon coffi yn Nyffryn Nantlle. Ac mae pethau yn addo berwi drosodd eleni gan bod criw Sir Benfro wedi trefnu seremoni wobrwyo I bobl sydd wedi cyfrannu tuag at Gymreictod y sir. Ac mae disyblion Ysgol yr Archesgob McGrath ym Mhenybont yn gweithio ar syniadau eisioes
Ymgyrch llawr gwlad yw hi sy’n gweithredu heb unryw nawdd ac sy’n dangos fod y Gymraeg yn perthyn I bawb.
Dywed Catrin Dafydd ar ran Dathlu’r Gymraeg:
“Roedd brwdfrydedd pawb llynedd yn ysbrydoliaeth ac wedi ysgogi gwaddol hir dymor. O ganlyniad I fore coffi mewn un ysgol penderfynodd y rhieni di-Gymraeg gychwyn dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion.
“Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Mae rhai Canolfannau Dysgu Cymraeg I Oedolion yn brysur yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Hydref 15ed. Ond nid diwrnod I ddysgwyr yn unig yw hwn. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb I ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
“Mae diwrnod Shwmae Sumae yn ddiwrnod I annog pawb yng Nghymru I fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn I bawb sydd wedi gwneud Cymru’n gartref. A gennym ni bobl Cymru mae’r grym I gadw’r Gymraeg yn fyw. Gall pawb fod yn rhan o’r daith o’r eiliad y byddwn yn dweud shwmae neu su’mae ar ddechrau sgwrs, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o Gymraeg sydd gennym.
Dilynwch ni ar: www.shwmae.org
Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae 2014
Twitter: @shwmaesumae
#DSS2014