Shwmae Sumae yn agosau!

shwmaesumae15Hydref
“Ger y bar, ar faes chwarae, yn y gwaith, wrth ddesg neu gae, cwyd dy lais, Shwmae Su’mae!

Dyma trawiad trydar y prifardd Llion Jones am Ddiwrnod Shwmae Sumae! ac wrth i Ddiwrnod Shwmae Sumae! agosau mae nifer o wynebau cyfarwydd wedi dangos cefnogaeth i’r achos.

Dywedodd Ben Davies, amddiffynnwr Abertawe a Chymru ei fod yn falch o gefnogi’r ymgyrch:

“Cymraeg yw iaith fy nghyndeidiau ac mae’n gyfrifoldeb arna i gario ymlaen â’r traddodiad. Mae’n bwysig fy mod i’n siarad Cymraeg gyda’r teulu ac yn dysgu pobl eraill am y Gymraeg. Hefyd mae’n deimlad braf bod nifer o chwaraewyr eraill erbyn hyn yng ngharfan Cymru sy’n siarad Cymraeg.”

Ar ddydd Mawrth, Hydref 15ed cynhelir nifer o weithgareddau ar draws y wlad i ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae! Bwriad yr ymgyrch yw:
• gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus,
• dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu medrusedd
• a sicrhau defnydd o’r Gymraeg drwy’r flwyddyn.

Yn sir Benfro mae’r Urdd, CFFI, Mentr Iaith Sir Benfro, Tŵf, Mudiad Meithrin; Coleg Penfro, yr Adran Addysg, Banc Barclays, Merched y Wawr, Cymraeg i Oedolion a ‘r Parc Cenedlaethol wedi uno i ddathlu’r diwrnod drwy gynnal digwyddiadau fflachfobio mewn pedair canolfan ar draws y Sir.

Dywedodd Llinos Penfold, sy’n cydlynnu’r digwyddiadau ar y cyd gyda Catrin Phillips: “Mae’n gyfle gwych i farchnata gwaith y mudiadau o fewn y sir, annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith Cymry Cymraeg a dysgwyr a gwneud rhywbeth hwyliog a gwahanol er mwyn codi proffil yr iaith.”

Ychwanegodd Catrin Phillips, sydd yn gweithio gyda phlant ail iaith de sir Benfro:
“Bydd y profiad o ymarfer eu Cymraeg gyda phlant ac oedolion eraill a gweld bod y Gymraeg yn iaith fyw a siaredir yn helaeth o fewn ein sir yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion ail iaith”.

Bydd Cymraeg i Oedolion Gwent yn trefnu stondin yn Amgueddfa y Pwll Mawr, Blaenafon, tra bod nifer o ysgolion, megis Ysgol Archesgob Mcgrath Penybont ac Ysgol Uwchradd Maesteg yn manteisio ar y diwrnod i hybu’r Gymraeg o fewn yr ysgol a chael ychydig o hwyl.

Ac mae Diwrnod Shwmae Sumae! yn gyfle i gael bargen neu ennill gwobr. Ym Mhenybont ar Ogwr bydd y 50ed person sy’n cyfarch perchennog Siop yr Hen Bont â’r geiriau “Shwmae” yn derbyn gwobr arbennig.

Bydd cwsmeriaid bwytai campws Prifysgol Aberystwyth yn gallu manteisio ar gostyngiad o 10% os archebir diod yn y Gymraeg. Peidiwch a phoeni, bydd ‘na gymorth wrth law i rheiny sydd ddim yn rhugl!

“Mae cefnogaeth Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn wirioneddol wych a phawb am sicrhau bod Diwrnod Shwmae Su’mae! yn ddiwrnod i’w gofio.” dywedodd
Jaci Taylor o Ganolfan Cymraeg i Oedolion y Brifysgol sydd wedi bod yn trefnu y digwyddiad.

Yng Nghrymych bydd Tŷ Bach Twt yn cynnig £5 o docyn anrheg i unrhyw gwsmer sy’n gwario dros £40 ar ddiwrnod Shwmae ac sy’n dechrau eu sgwrs yn Gymraeg. Cofiwch dyw hi ddim yn rhy gynnar i ddechrau siopa Nadolig!

Dywedodd Mari Lovgreen, un o Bencampwyr Shwmae Sumae! a chyflwynydd Argyfwng 999 ar Stwnsh:
“Mae’n grêt meddwl fod na gymaint o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer diwrnod Shwmai Sumae!- a hynny dros Gymru. Mae mor bwysig bod Cymraeg yn cael ei glywed a’i ddathlu ymhob rhan o Gymru.

“Mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brin – mae’n bwysig ein bod ni’n annog dysgwyr a’u cynnwys mewn gweithgareddau Cymraeg. Mae’r iaith yn fyw, ac mae’r iaith i bawb! Defnyddiwch hi! “