Rhagor o fuddsoddiad yn y Gymraeg medd mudiadau iaith cyn y Gynhadledd Fawr

Galw am 1% o’r gyllideb i brosiectau Cymraeg

DYLAI Llywodraeth Cymru gynyddu’n sylweddol ei buddsoddiad yn y Gymraeg, yn ôl papur trafod a gyhoeddir heddiw cyn Cynhadledd Fawr y Llywodraeth.

Yn y ddogfen, mae’r grŵp ymbarél Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn dadlau bod angen buddsoddiad yn yr iaith sydd yn cyfateb â’r lefelau yng Ngwlad y Basg, ac yn galw ar y Llywodraeth i anelu at fuddsoddi 1% o gyllideb Llywodraeth Cymru mewn prosiectau penodol i hybu’r Gymraeg.

Yn siarad cyn y Gynhadledd Fawr, dywedodd Huw Thomas, Cadeirydd, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg sydd yn cynrychioli 23 o fudiadau: “Croesawn yn wresog ymgynghoriad “Gynhadledd Fawr” y Llywodraeth gan iddo gynnig cyfle i’n haelodau gyflwyno cynlluniau i gryfhau’r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Bwriad ein papur trafod yw amlinellu ffyrdd lle yr ydym, fel mudiadau, yn credu y gellid cyrraedd nodau ac amcanion y Llywodraeth.  Cred Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.  Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.”

“Oherwydd patrymau  gwariant hanesyddol, prin yw buddsoddiad y Llywodraeth yn y Gymraeg.  Araf hefyd yw’r ymgais i brif-ffrydio’r Gymraeg drwy adrannau’r Llywodraeth ac yn aml nid yw polisïau newydd yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth. Mae ‘na fuddsoddiad llawer helaethach yn yr iaith Fasgeg, a gwelwn fod y buddsoddiad hwnnw’n dwyn ffrwyth gyda chynnydd yn nifer siaradwyr yr iaith. Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn amlygu nifer o heriau a wyneba’r Iaith, ond credwn fod meysydd penodol lle gellid buddsoddi a fyddai o fudd nid yn unig i’r Gymraeg ond nifer o amcanion eraill y Llywodraeth