Datblygu’r iaith Gymraeg: Y Gynhadledd Fawr

Papur Trafod Mudiadau Dathlu’r Gymraeg

Cyflwyniad
Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn grŵp ymbarél o 23 mudiad sydd yn hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar lawr gwlad.

Croesawn yn wresog ymgynghoriad “Gynhadledd Fawr” y Llywodraeth gan iddo gynnig cyfle i’n haelodau gyflwyno cynlluniau i gryfhau’r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

Bwriad y ddogfen hon yw amlinellu ffyrdd lle yr ydym, fel mudiadau, yn credu y gellid cyrraedd nodau ac amcanion y Llywodraeth.

Cred Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i’r Gymraegdros y blynyddoedd i ddod. Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Yn y ddogfen hon, rydym wedi adnabod nifer o feysydd lle gellid targedu buddsoddiad
ychwanegol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a’i chymunedau yn tyfu.

Y Cyddestun
Oherwydd patrymau gwariant hanesyddol, prin yw buddsoddiad y Llywodraeth yn y Gymraeg.

Ym maes Addysg mae’r galw gan rieni am addysg Gymraeg wedi achosi Cynghorau Sir a’r
Llywodraeth i ehangu’r ddarpariaeth ond heb ateb y galw yn gyfan gwbl. Mewn meysydd eraill mae’r gwariant ar y Gymraeg yn uniongyrchol yn llai na £12m y flwyddyn o gyllideb flynyddol y Llywodraeth o dros £13.6 biliwn (2015/16). Araf hefyd yw’r ymgais i brifffrydio’r Gymraeg drwy adrannau’r Llywodraeth ac yn aml nid yw polisïau newydd yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth.

Nodwn fod buddsoddiad llawer helaethach yn yr iaith Fasgeg, a gwelwn fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth gyda chynnydd yn nifer siaradwyr yr iaith o 24% yn 1991 i 32% yn 2011.
Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn amlygu nifer o heriau a wyneba’r iaith ond credwn fod meysydd penodol lle gellid buddsoddi a fyddai o fudd nid yn unig i’r Gymraeg ond nifer o amcanion eraill y Llywodraeth.

Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth
Mae angen gweithredu pendant i wireddu’r Strategaeth drwy ganolbwyntio ar
(i) Trosglwyddiant iaith rhwng rhieni a’u plant;
(ii) Defnydd plant o’r Gymraeg yn yr ysgol ac yn gymdeithasol;
(iii) Cyfleoeodd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gorffen ysgol;
(iv) Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a chreu swyddi newydd.

Gwariant ar Ddarpariaeth Cymraeg 1% dros y Gymraeg
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu’r gwariant ar brosiectau penodol Cymraeg, dros amser, i 1% o’r gyllideb sef tua £136 miliwn yn y flwyddyn 2015/16 1
Daw rhan o’r gwariant yma drwy arallgyfeirio gwariant presennol. Hefyd galwn ar y Cynghorau Sir a chyrff statudol eraill i sicrhau fod eu holl wasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.