Mudiadau’n dathlu llwyddiant Diwrnod Shwmae Su’mae

IoloEdgerShwmae2013Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg am ddiolch i gymunedau Cymru am eu gweithgarwch a’u hafiaith wrth sicrhau llwyddiant y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf erioed, ar Hydref 15fed, 2013. Mewn ymgyrch o’r gwraidd, llwyddodd cymunedau dros Gymru gyfan i ysbrydoli gyda’u gweithgarwch a’u creadigrwydd.

Gyda’r ymgyrch wedi ei lansio am y tro cyntaf eleni, amcangyfrir fod tua 150 o weithgareddau wedi’i trefnu fel rhan o’r diwrnod.

Bu Mentrau Iaith, ysgolion a grwpiau cymunedol ledled y wlad yn hyrwyddo’r diwrnod gan ysgogi bwrlwm a chreadigrwydd rhyfeddol. Un o’r ardaloedd hynny oedd Pen-y-bont ar Ogwr, lle trefnodd Menter Bro Ogwr stondin yn darparu adloniant ac amrywiol weithgareddau ynghanol tref Pen-y-bont a Siop Lyfrau yr Hen Bont yn cynnig gwobr i’r 50ed person cwsmer fyddai’n cyfarch y siopwr gyda’r geiriau Shwmae!

Meddai Marged Elin Thomas o Fenter Bro Ogwr ar dudalen Facebook yr ymgyrch, “Mae mwy o gwsmeriaid di-Gymraeg Siop yr Hen Bont bellach yn defnyddio ‘Shwmae’ fel cyfarch ers i Menter Bro Ogwr gymryd rhan yn Niwrnod Shwmae ddydd Mawrth!”.

Cafwyd ymateb arbennig hefyd gan ysgolion ymhob cwr o’r wlad, gyda disgyblion a staff fel ei gilydd yn ymdaflyd ei hunain yn y gweithgarwch. Ysgrifennodd Glenn Wall o Flaenau Gwent ar dudalen Facebook yr ymgyrch, “Roedd pawb wedi mwynhau Diwrnod Shwmae Su’mae yn yr ysgol heddiw. Bydd tudalen amdano yng nghylchgrawn yr ysgol cyn diwedd y tymor. Edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!”

Nodwedd syfrdanol oedd presenoldeb anhygoel yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r ystadegau’n dangos fod 1,046 o unigolion gwahanol wedi trydar 1,598 o weithiau’n ystod y diwrnod a rhain wedi cyrraedd oddeutu 674,699 o gyfrifon.

Meddai Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, “Roedd lefelau’r traffig, yn enwedig yn y bore, yn sylweddol. Mae’n bendant wedi bod yn un o’r ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol mwyaf llwyddiannus yn y Gymraeg ac yn amlygu pwysigrwydd cyfryngau tebyg o safbwynt yr iaith. Dwi’n eithaf sicr gyda mwy o ymwybyddiaeth yn 2014 fydd hwn yn tyfu’n sylweddol o ffigyrau 2013.”

Dywedodd Catrin Dafydd ar ran Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, “Testun balchder o’r mwyaf inni oedd cael cefnogi cymunedau Cymru i ddathlu’r Gymraeg trwy gyfrwng yr ymgyrch hon.

Ymgyrch o’r gwraidd oedd hi a roddodd gyfle i gymunedau berchnogi amrywiol ffyrdd dychmygus o gyfleu eu hunaniaeth gan ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Mae’r modd y cydiodd y diwrnod yn nychymyg pobl wedi profi maint yr awch a’r ewyllys da sydd gan gymunedau Cymru tuag at yr iaith a’r hyn sy’n rhyfeddol yw nad oedd unrhyw nawdd yn gyrru’r ymgyrch, dim ond brwdfrydedd a chreadigrwydd pobl Cymru. Yr hyn sy’n bwysig nawr yw sianelu’r gwaddol a chynnal y momentwm. Dim ond dechrau’r daith yw hyn. Ein gobaith yw y bydd yn arwain at ein gweld ni gyd yn defnyddio mwy o’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, nes troi diwrnod Shwmae Sumae yn flwyddyn Shwmae Sumae, a chreu sefyllfa lle y bydd rhagor o bobl yn byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n defnyddio hynny o Gymraeg sydd ganddynt.”