Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, gan gysylltu gyda nifer o unigolion. Mae’r Eisteddfod yn annog yn gryf pobl i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, i leisio’u barn am y Brifwyl ac am y prosiect cymunedol sy’n rhan mor allweddol o’r paratoadau ar gyfer yr wythnos ei hun.
Fis Tachwedd, ymddangosodd yr Eisteddfod gerbron y grŵp, ac rwy’n atodi copi o’r cyflwyniad, er mwyn i chi weld ein barn a’n safbwynt ni ar ddyfodol yr Eisteddfod ac ar sut y gallwn barhau i newid a datblygu. Atodaf hefyd yr hyn y mae’r Gweinidog wedi gofyn i’r Grŵp i ystyried.
Mae Tîm Rheoli’r Eisteddfod o’r farn fod y Brifwyl wedi gwneud cyfraniad mawr at warchod, cynnal a hybu diwylliant yn yr iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd a thrwy hynny mae wedi cyflawni gwaith amhrisiadwy yn gwarchod, cynnal a hybu’r iaith ei hun. Rydym hefyd yn unfrydol fod y cyfraniad hwnnw fwyaf pan fo’r Brifwyl yn ymweld â gwahanol ardaloedd ledled Cymru yn eu tro. Yn ein barn ni proses ac nid digwyddiad yw’r Eisteddfod ac mae’r broses, sy’n parhau dros ddwy flynedd yn yr ardal leol yn rhoi chwistrelliad o Gymreictod ac o’r Gymraeg i’r fro.
Gwyddom fod y grŵp yn trafod ac yn ystyried canoli’r Eisteddfod ar ddau safle parhaol, ac mae hyn yn ein pryderu’n fawr. Rydym yn credu y byddai hyn yn haneru dylanwad a chyfraniad y Brifwyl, a byddai hynny’n drychineb yn ein cyfnod ni. Nid yn unig y byddai taith y Brifwyl yn cael ei haneru, ac felly ei dylanwad a’i chyfraniad, ond mae perygl gwirioneddol y byddai ffyddloniaid presennol yr Eisteddfod, sy’n mynychu pob Prifwyl yn rheolaidd, yn diflasu ar ymweld â’r un lleoliad yn rhy aml. Mae’r drafodaeth yn edrych ar gynnal yr Eisteddfod mewn safleoedd parhaol ddwywaith allan o bob pedair blynedd, a byddai hyn yn rhoi llawer llai o gyfle i awdurdodau lleol i wneud cais i groesawu’r ŵyl.
A ninnau yng nghanol y cyfnod mwyaf heriol i’r Gymraeg ers cenedlaethau, os nad erioed, mae rôl deithiol yr Eisteddfod yn fwy perthnasol i ni fel gwlad nag y bu yn yn y gorffennol hyd yn oed. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r cwymp yn nifer y cymunedau lle y siaredir y Gymraeg gan fwy na 70% o’r gymuned leol a rydym hefyd yn ymwybodol o’r ffaith nad ydym wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg ar hyd a lled ein gwlad yng Nghyfrifiad 2011.
Mae gallu’r Eisteddfod Genedlaethol i ymweld ag ardaloedd gwahanol yng Nghymru yn allweddol yn ein gwaith i geisio sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg. Mae anghenion pob ardal yn wahanol, a’r budd a ddaw o roi cartref i’r Eisteddfod yn amrywio o le i le. Newid agwedd at yr iaith yw’r gobaith drwy gynnal yr Eisteddfod mewn ardal fel Blaenau Gwent, ond mae rôl yr Eisteddfod mewn ardal fel Sir Gaerfyrddin yn wahanol iawn. Mae’r is-adeiledd ieithyddol yn bodoli eisoes mewn ardal fel hon, ac mae ymweliad y Brifwyl yn gyfle i brofi bod yr iaith yn berthnasol a bod modd ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau.
Nid oes unrhyw ddigwyddiad na phrosiect arall a all roi’r fath hwb i ardal na’r fath broffil i’r Gymraeg a’n diwylliant, ac a all ddenu tua 150,000 o ymwelwyr i ran wahanol o’n gwlad bob blwyddyn gan roi hwb economaidd gwirioneddol i ardal mewn cyfnod mor hir o gyni economaidd.
Gofynnwn am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn, a gobeithio y gallwn ddibynnu arnoch, fel un o garedigion y Brifwyl, i leisio’ch barn o blaid yr Eisteddfod. Dylid anfon sylwadau at meinir.thompson@cymru.gsi.gov.uk neu i’w sylw hi yn Adolygiad yr Eisteddfod Genedlethol, Isadran y Gymraeg, 3ydd Llawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ erbyn 31 Mawrth fan bellaf.
Yn gywir iawn
Elfed