Araith agoriadol Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg (y Dr Huw Thomas) yn y Gynhadledd Ol-gyfrifiad, Rhydaman, 14 Mawrth 2013
When Welsh speakers have their backs against the wall,
they tend to be quite militant. Otherwise the vast majority are apathetic . . .
The Welsh come out of their shells only when they have to, and maybe when it’s too late.
Nid yw Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn credu ei bod hi’n rhy hwyr i droi’r llanw ieithyddol unwaith eto. Hon yw’r neges gadarnhaol gyntaf ‘rwyf am ei thanlinellu heddiw. Adeiladwn ar lwyddiannau’r gorffennol, boed y rheiny o’r gwaelod i fyny neu o lywodraeth ganol i lawr.
Yn ail, ers cyfrifiad 2001 bu’r dadansoddwyr a’r cynllunwyr iaith yn ymwybodol o fewnlifiad cyson i Gymru, o’r Cymry Cymraeg yn mudo i wledydd eraill oherwydd prinder swyddi addas yng Nghymru, o’r diffyg trosglwyddo iaith rhwng cenedlaethau, yn arbennig mewn ardal fel Sir Gâr, ac o’r diffyg cyfleon i ddysgwyr siarad Cymraeg y tu allan i furiau’r Ysgol, boed yn gyn-ddisgyblion yr Ysgolion Cymraeg neu’r ysgolion dwyieithog neu’r ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Yn bersonol, ni chefais o ganlyniad sioc pan glywais ddata cyfrifiad 2011. Ond fe brofais siom.
Yn drydydd, gweithiwn gyda’n gilydd i gadw ewyllys da poblogaeth ein gwlad o blaid yr iaith. Mae’r ymdeimlad o genedligrwydd yn tyfu, mae ymwybyddiaeth o’n hunaniaeth fel Cymry yn cryfhau, mae nifer y disgyblion yn yr Ysgolion Cymraeg yn tyfu. Ond nid yw hyn yn ddigon. ‘Rwy’n gobeithio y bydd y gynhadledd yn ein hysbrydoli i gyfrannu at ffyrdd ymarferol o wrthdroi’r shifft ieithyddol, ac yn ein hysbrydoli i adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol.
Lleolwyd y gynhadledd yn Sir Gâr, gan mai yma y gwelwyd y pwynt canran yn disgyn fwyaf – o 50.3 y cant yn 2001 i 43.9 y cant ddwy flynedd yn ôl. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe wnes astudiaeth achos o’r ymdrechion gan dair o Ysgolion Uwchradd Cymraeg neu ddwyieithog Sir Gâr i gynyddu’r defnydd o’r iaith yn eu cwricwlwm. Heb fanylu, un o’r gwersi pennaf oedd bod angen osgoi polareiddio agweddau: statud a rheoliadau ar y naill law a dyhead y bobl ar y llaw arall. Ydy strwythur yn bwysicach na phobl? Dim ond ychydig ddyddiau yn ôl darllenais am gyn was sifil yn dadlau nad oedd angen Comisiynydd arnom. Bobl annwyl, allwn ni ddim fforddio gwastraffu amser yn troi’r cloc yn ôl, yn ymgecru ymhlith ein gilydd. Na, fel y dywedais, gweithiwn yn ymarferol, gyda’n gilydd i gadw ewyllys da poblogaeth ein gwlad o blaid yr iaith.
Mynnwn, er enghraifft, fod ein cynghorau lleol yn gweithredu yn rymus i gyrraedd targedau’r Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg. Mynnwn, er enghraifft, fod y Gymraeg yn ganolog ym mhortffolio pob gweinidog yn y cabinet, fel y cytunwyd yn Iaith Pawb. Aeth deng mlynedd heibio ers cyhoeddi Iaith Pawb. Do, fe weithredwyd, i raddau. Mynnwn weithredu grymusach, gan lywodraeth a chan ein haelodau, a chan weddill Cymru.
Yn bedwerydd, mae’r Gynhadledd yn gyfle i gyhoeddi cam ymarferol, cam bychan, rhwydd, ond effeithiol.
Bob blwyddyn, bydd diwrnod Shwmai? yn cael ei gynnal yn yr hydref er mwyn annog pawb yng Nghymru i ddweud ‘Shwmai?’ wrth ei gilydd ar ddechrau sgwrs a hynny am bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac yn etifeddiaeth gyffredin i ni gyd. Nod diwrnod ‘Shwmai?’ yw annog pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt ac annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a cheisio gwasanaeth Cymraeg yn eu cymunedau – mewn siopau, yn y ganolfan hamdden neu mewn caffi – ymhob man! Y nod fydd sicrhau bod holl fudiadau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn cymryd cyfrifoldeb dros amrywiol weithgareddau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch.
Yn bumed, mae angen i bob un ohonom fewnoli ystadedegau’r cyfrifiad, eu deall, a’u dehongli. Ar sail hynny, medrwn lunio camau ymarferol, yn unigolion, yn fudiadau ac yn llywodraeth (leol a chenedlaethol). Dyna ein rôl ni heddiw. Bod yn ymarferol ragweithiol.
Yn olaf, mae pawb sydd yma heddiw yn sylweddoli bod y chwe maes a ddewiswyd gennym i roi ffocws i’n trafod (mudo, pobl ifanc a phlant, addysg, y gweithle, gwasanaethau, a’r economi) yn cydblethu mewn ffyrdd cymhleth, ond, yn y pen draw, fe gawn ddatrysiadau ymarferol i’r her ieithyddol.
Bydd yr ystadegwyr yn ein plith wedi cyfrif sawl gwaith y defnyddiais y gair ‘ymarferol’ yn y cyflwyniad byr hwn: chwe gwaith. Bydd y dehonglwyr data eisoes yn darllen negeseuon lled amlwg yn codi o amlder y gair, o’r data os mynnwch chi. O ran data cyfrifiad 2011, pwy gwell i’n harwain a’n hysbrydoli na Hywel Jones, ein siaradwr agoriadol?