Archifau Categori: Newyddion

Blwyddyn Comisiynydd y Gymraeg

Annwyl Ddarllenwyr,

Ym mis Ebrill roedd hi’n flwyddyn ers i mi ddechrau yn fy rôl fel Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gysylltodd â mi yn ystod y flwyddyn. Trwy rannu eich profiadau, a thrwy gyflwyno cwynion am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg, ymateb i’r ymgynghoriad ar safonau, mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ac ymweld â’n stondin yn sioeau’r haf, fe wnaethoch gyfraniad gwerthfawr i lwyddiant y gwaith a fy ngalluogi i a’m tîm o swyddogion i adnabod y materion sydd o bwys i siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn mewn ffigyrau:

  • Delio â 466 o achosion gan unigolion oedd yn teimlo bod ganddynt le i gwyno am wasanaeth Cymraeg
  • Croesawu dros 300 o bobl i’n cyfarfodydd cyhoeddus
  • Derbyn dros 260 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar safonau mewn perthynas â’r Gymraeg
  • Dosbarthu dros 10,000 o fathodynnau ‘Iaith Gwaith’ sy’n dangos bod person yn siarad Cymraeg

Yn ein hail flwyddyn, byddwn yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn gweithredu i herio sefyllfaoedd lle caiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.

Yr haf hwn bydd stondin y Comisiynydd yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro, y Sioe Fawr yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Os ydych yn mynychu’r sioeau hyn, dewch draw i’n gweld i drafod eich profiadau a chyflwyno eich cwynion, derbyn bathodyn Iaith Gwaith a thaflenni gwybodaeth am waith a rôl y Comisiynydd a hefyd er mwyn cael cyfle i dderbyn gwybodaeth a bwydo i mewn i’r ymholiad statudol arbennig yr ydym yn ei gynnal er mwyn edrych mewn manylder ar y defnydd o’r Gymraeg yn y sector iechyd.

Yn gywir

Meri Huws

Comisiynydd y Gymraeg

post@comisiynyddygymraeg.org

0845 6033 221

Araith Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg

Araith agoriadol Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg (y Dr Huw Thomas) yn y Gynhadledd Ol-gyfrifiad, Rhydaman, 14 Mawrth 2013

Ar ran Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, croeso cynnes i chi i gyd i’r gynhadledd hon. Onibai am y siom a gawsom pan gyhoeddwyd data Cyfrifiad 2011, ni fyddem, go brin, wedi galw cynhadledd er mwyn dathlu llwyddiant pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Pobl fel yna y’n ni’r Cymry: fe ddywedodd Dylan Phillips bron ddeng mlynedd yn ôl:
When Welsh speakers have their backs against the wall,
they tend to be quite militant. Otherwise the vast majority are apathetic . . .
The Welsh come out of their shells only when they have to, and maybe when it’s too late.

Nid yw Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn credu ei bod hi’n rhy hwyr i droi’r llanw ieithyddol unwaith eto. Hon yw’r neges gadarnhaol gyntaf ‘rwyf am ei thanlinellu heddiw. Adeiladwn ar lwyddiannau’r gorffennol, boed y rheiny o’r gwaelod i fyny neu o lywodraeth ganol i lawr.

Yn ail, ers cyfrifiad 2001 bu’r dadansoddwyr a’r cynllunwyr iaith yn ymwybodol o fewnlifiad cyson i Gymru, o’r Cymry Cymraeg yn mudo i wledydd eraill oherwydd prinder swyddi addas yng Nghymru, o’r diffyg trosglwyddo iaith rhwng cenedlaethau, yn arbennig mewn ardal fel Sir Gâr, ac o’r diffyg cyfleon i ddysgwyr siarad Cymraeg y tu allan i furiau’r Ysgol, boed yn gyn-ddisgyblion yr Ysgolion Cymraeg neu’r ysgolion dwyieithog neu’r ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Yn bersonol, ni chefais o ganlyniad sioc pan glywais ddata cyfrifiad 2011. Ond fe brofais siom.

Yn drydydd, gweithiwn gyda’n gilydd i gadw ewyllys da poblogaeth ein gwlad o blaid yr iaith. Mae’r ymdeimlad o genedligrwydd yn tyfu, mae ymwybyddiaeth o’n hunaniaeth fel Cymry yn cryfhau, mae nifer y disgyblion yn yr Ysgolion Cymraeg yn tyfu. Ond nid yw hyn yn ddigon. ‘Rwy’n gobeithio y bydd y gynhadledd yn ein hysbrydoli i gyfrannu at ffyrdd ymarferol o wrthdroi’r shifft ieithyddol, ac yn ein hysbrydoli i adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol.

Lleolwyd y gynhadledd yn Sir Gâr, gan mai yma y gwelwyd y pwynt canran yn disgyn fwyaf – o 50.3 y cant yn 2001 i 43.9 y cant ddwy flynedd yn ôl. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe wnes astudiaeth achos o’r ymdrechion gan dair o Ysgolion Uwchradd Cymraeg neu ddwyieithog Sir Gâr i gynyddu’r defnydd o’r iaith yn eu cwricwlwm. Heb fanylu, un o’r gwersi pennaf oedd bod angen osgoi polareiddio agweddau: statud a rheoliadau ar y naill law a dyhead y bobl ar y llaw arall. Ydy strwythur yn bwysicach na phobl? Dim ond ychydig ddyddiau yn ôl darllenais am gyn was sifil yn dadlau nad oedd angen Comisiynydd arnom. Bobl annwyl, allwn ni ddim fforddio gwastraffu amser yn troi’r cloc yn ôl, yn ymgecru ymhlith ein gilydd. Na, fel y dywedais, gweithiwn yn ymarferol, gyda’n gilydd i gadw ewyllys da poblogaeth ein gwlad o blaid yr iaith.

Mynnwn, er enghraifft, fod ein cynghorau lleol yn gweithredu yn rymus i gyrraedd targedau’r Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg. Mynnwn, er enghraifft, fod y Gymraeg yn ganolog ym mhortffolio pob gweinidog yn y cabinet, fel y cytunwyd yn Iaith Pawb. Aeth deng mlynedd heibio ers cyhoeddi Iaith Pawb. Do, fe weithredwyd, i raddau. Mynnwn weithredu grymusach, gan lywodraeth a chan ein haelodau, a chan weddill Cymru.

Yn bedwerydd, mae’r Gynhadledd yn gyfle i gyhoeddi cam ymarferol, cam bychan, rhwydd, ond effeithiol.

Bob blwyddyn, bydd diwrnod Shwmai? yn cael ei gynnal yn yr hydref er mwyn annog pawb yng Nghymru i ddweud ‘Shwmai?’ wrth ei gilydd ar ddechrau sgwrs a hynny am bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac yn etifeddiaeth gyffredin i ni gyd. Nod diwrnod ‘Shwmai?’ yw annog pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt ac annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a cheisio gwasanaeth Cymraeg yn eu cymunedau – mewn siopau, yn y ganolfan hamdden neu mewn caffi – ymhob man! Y nod fydd sicrhau bod holl fudiadau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn cymryd cyfrifoldeb dros amrywiol weithgareddau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch.

Yn bumed, mae angen i bob un ohonom fewnoli ystadedegau’r cyfrifiad, eu deall, a’u dehongli. Ar sail hynny, medrwn lunio camau ymarferol, yn unigolion, yn fudiadau ac yn llywodraeth (leol a chenedlaethol). Dyna ein rôl ni heddiw. Bod yn ymarferol ragweithiol.

Yn olaf, mae pawb sydd yma heddiw yn sylweddoli bod y chwe maes a ddewiswyd gennym i roi ffocws i’n trafod (mudo, pobl ifanc a phlant, addysg, y gweithle, gwasanaethau, a’r economi) yn cydblethu mewn ffyrdd cymhleth, ond, yn y pen draw, fe gawn ddatrysiadau ymarferol i’r her ieithyddol.

Bydd yr ystadegwyr yn ein plith wedi cyfrif sawl gwaith y defnyddiais y gair ‘ymarferol’ yn y cyflwyniad byr hwn: chwe gwaith. Bydd y dehonglwyr data eisoes yn darllen negeseuon lled amlwg yn codi o amlder y gair, o’r data os mynnwch chi. O ran data cyfrifiad 2011, pwy gwell i’n harwain a’n hysbrydoli na Hywel Jones, ein siaradwr agoriadol?

Cefnogwch yr Eisteddfod Genedlaethol

Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, gan gysylltu gyda nifer o unigolion. Mae’r Eisteddfod yn annog yn gryf pobl i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, i leisio’u barn am y Brifwyl ac am y prosiect cymunedol sy’n rhan mor allweddol o’r paratoadau ar gyfer yr wythnos ei hun.

Fis Tachwedd, ymddangosodd yr Eisteddfod gerbron y grŵp, ac rwy’n atodi copi o’r cyflwyniad, er mwyn i chi weld ein barn a’n safbwynt ni ar ddyfodol yr Eisteddfod ac ar sut y gallwn barhau i newid a datblygu. Atodaf hefyd yr hyn y mae’r Gweinidog wedi gofyn i’r Grŵp i ystyried.

Mae Tîm Rheoli’r Eisteddfod o’r farn fod y Brifwyl wedi gwneud cyfraniad mawr at warchod, cynnal a hybu diwylliant yn yr iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd a thrwy hynny mae wedi cyflawni gwaith amhrisiadwy yn gwarchod, cynnal a hybu’r iaith ei hun. Rydym hefyd yn unfrydol fod y cyfraniad hwnnw fwyaf pan fo’r Brifwyl yn ymweld â gwahanol ardaloedd ledled Cymru yn eu tro. Yn ein barn ni proses ac nid digwyddiad yw’r Eisteddfod ac mae’r broses, sy’n parhau dros ddwy flynedd yn yr ardal leol yn rhoi chwistrelliad o Gymreictod ac o’r Gymraeg i’r fro.

Gwyddom fod y grŵp yn trafod ac yn ystyried canoli’r Eisteddfod ar ddau safle parhaol, ac mae hyn yn ein pryderu’n fawr. Rydym yn credu y byddai hyn yn haneru dylanwad a chyfraniad y Brifwyl, a byddai hynny’n drychineb yn ein cyfnod ni. Nid yn unig y byddai taith y Brifwyl yn cael ei haneru, ac felly ei dylanwad a’i chyfraniad, ond mae perygl gwirioneddol y byddai ffyddloniaid presennol yr Eisteddfod, sy’n mynychu pob Prifwyl yn rheolaidd, yn diflasu ar ymweld â’r un lleoliad yn rhy aml. Mae’r drafodaeth yn edrych ar gynnal yr Eisteddfod mewn safleoedd parhaol ddwywaith allan o bob pedair blynedd, a byddai hyn yn rhoi llawer llai o gyfle i awdurdodau lleol i wneud cais i groesawu’r ŵyl.

A ninnau yng nghanol y cyfnod mwyaf heriol i’r Gymraeg ers cenedlaethau, os nad erioed, mae rôl deithiol yr Eisteddfod yn fwy perthnasol i ni fel gwlad nag y bu yn yn y gorffennol hyd yn oed. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r cwymp yn nifer y cymunedau lle y siaredir y Gymraeg gan fwy na 70% o’r gymuned leol a rydym hefyd yn ymwybodol o’r ffaith nad ydym wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg ar hyd a lled ein gwlad yng Nghyfrifiad 2011.
Mae gallu’r Eisteddfod Genedlaethol i ymweld ag ardaloedd gwahanol yng Nghymru yn allweddol yn ein gwaith i geisio sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg. Mae anghenion pob ardal yn wahanol, a’r budd a ddaw o roi cartref i’r Eisteddfod yn amrywio o le i le. Newid agwedd at yr iaith yw’r gobaith drwy gynnal yr Eisteddfod mewn ardal fel Blaenau Gwent, ond mae rôl yr Eisteddfod mewn ardal fel Sir Gaerfyrddin yn wahanol iawn. Mae’r is-adeiledd ieithyddol yn bodoli eisoes mewn ardal fel hon, ac mae ymweliad y Brifwyl yn gyfle i brofi bod yr iaith yn berthnasol a bod modd ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau.
Nid oes unrhyw ddigwyddiad na phrosiect arall a all roi’r fath hwb i ardal na’r fath broffil i’r Gymraeg a’n diwylliant, ac a all ddenu tua 150,000 o ymwelwyr i ran wahanol o’n gwlad bob blwyddyn gan roi hwb economaidd gwirioneddol i ardal mewn cyfnod mor hir o gyni economaidd.

Gofynnwn am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn, a gobeithio y gallwn ddibynnu arnoch, fel un o garedigion y Brifwyl, i leisio’ch barn o blaid yr Eisteddfod. Dylid anfon sylwadau at meinir.thompson@cymru.gsi.gov.uk neu i’w sylw hi yn Adolygiad yr Eisteddfod Genedlethol, Isadran y Gymraeg, 3ydd Llawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ erbyn 31 Mawrth fan bellaf.

Yn gywir iawn

Elfed