Archifau Categori: Llywodraeth

Grantiau Hybu’r Gymraeg

Datganiad Ysgrifenedig – Datganiad ysgrifenedig ar y Gymraeg

Diweddarwyd 03 Chwefror 2014

Linc Llywodraeth

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Yn dilyn y Gynhadledd Fawr haf diwethaf, fe wnes i ddatganiad (12 Tachwedd) yn amlinellu rhai o’r camau cychwynnol y byddem yn eu cymryd i ymateb i’r heriau a nodwyd yn y Gynhadledd.  Mae ein Strategaeth, Iaith fyw: iaith byw yn parhau i lywio’r hyn yr ydym yn ei wneud ac mae rhai datblygiadau pwysig wedi cael eu gwneud.  Mae’r heriau rydym yn eu wynebu yn allweddol felly ni allwn laesu dwylo.  Er y byddaf yn gwneud datganiad polisi llawn yn y gwanwyn, mae’n amserol i roi diweddariad i Aelodau nawr.

Cafodd y set gyntaf o safonau drafft o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 eu cyhoeddi ar 6 Ionawr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cychwyn ymchwiliad i’r Safonau gyda’r cynghorau sir,  awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Rydym ni yn y llywodraeth eisoes wedi dechrau ar y gwaith o adolygu ein trefniadau er mwyn cryfhau ein defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad, ac rydym hefyd yn ystyried sut i fesur effaith penderfyniadau polisi ac ariannol ar y Gymraeg.

Mae’r rheoliadau penodi bellach yn eu lle ar gyfer Tribiwnlys y Gymraeg, ac rydym wedi dechrau ar y broses o benodi’r Llywydd. Bydd y Tribiwnlys yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn ac rwy’n gweld hyn fel rhan arwyddocaol o’r fframwaith sefydliadol sy’n cwmpasu’r iaith.

Mae’r maes addysg wedi chwarae rhan enfawr yn hyrwyddo’r Gymraeg a chreu siaradwyr Cymraeg newydd.  Mae’n parhau i fod yn hanfodol i ddyfodol yr iaith.  Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 wedi rhoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail statudol ac mae’r rheoliadau cysylltiedig  bellach yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau penodol, fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn gyfochrog a hyn, rydym wedi cychwyn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth rhieni eu bod yn gallu dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant ym mhob rhan o Gymru.

Ym maes cynllunio, rydym wedi diwygio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, ac mae canllawiau’n cael eu datblygu i gynorthwyo awdurdodau cynllunio i asesu’r effaith ar y Gymraeg.  Bydd y canllawiau’n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Mae nifer o adolygiadau pwysig wedi cael eu cwblhau dros y misoedd diwethaf:

  • Cyhoeddwyd adroddiad o waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe wythnos diwethaf. Bydd  Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad hwn maes o law.
  • Yn ddiweddar rydym wedi neilltuo £90,000 ychwanegol i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni er mwyn iddynt allu gweithredu rhai o argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod a gyhoeddodd ei adroddiad yn yr Hydref.
  • Rydym wedi derbyn argymhellion y grŵp annibynnol a fu’n adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.  Rydym eisoes wedi cychwyn ar y newidiadau.
  • Rydym wedi derbyn yr adroddiad ar Gymunedau Cymraeg, sydd â’r nod o gynyddu nifer y cymunedau ble mae’r Gymraeg yn brif iaith, ac rydym wrthi yn ystyried ein ymateb.
  • Mae Grŵp annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, wedi bod yn adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Bydd argymhellion yr adroddiad Un Iaith i Bawb, yn cael eu bwydo i’r adolygiad ehangach o’r cwricwlwm.
  • Bydd  y Grŵp Iaith ac Economi yn adrodd yn fuan.

Bydd yr adroddiadau hyn i gyd yn ychwanegiadau pwysig i’n casgliadau yn dilyn y Gynhadledd Fawr.  Yn naturiol, rwy’n credu mai gweithredu, ac nid geiriau, fydd yn arwain yr agenda yn ei blaen ond maen bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda pholisïau sydd yn seiliedig ar ymchwil gadarn a dealltwriaeth glir o’r heriau.  Fel arall y mae posib y bydd gwaith yn mynd yn ei flaen sy’n ddigyswllt ac yn seiliedig ar ddiffyg dealltwriaeth.

Rwy’n barod wedi nodi pwysigrwydd addysg.  Darparwyd cymorth grant o tua £135 miliwn ers 2009  i gyflawni 17 prosiect mawr ar gyfer adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg. Hefyd, drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddwn yn anelu at gyflawni tua 25 prosiect mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y 5 i 6 mlynedd nesaf. Rydym hefyd wedi buddsoddi arian cyfalaf tuag at adeiladu bloc llety newydd yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Gallaf gadarnhau heddiw grant o £3.5m ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn 2014-15.  Bydd tri deg chwech o sefydliadau yn y sector wirfoddol yn elwa’n uniongyrchol o dderbyn y grant hwn, manylion wedi ei atodi.

Yr her o’n blaenau yw hybu’r defnydd o’r Gymraeg a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gweithio tuag at y nod hwn.  Mae’r her yn parhau i fod yn ddifrifol, ond mae gwaith da yn mynd yn ei flaen.  Mae adroddiad diweddar arbenigwyr Cyngor Ewrop wedi nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at yr iaith, a bydd hyn yn parhau.

Nid ni fel Llywodraeth Cymru yw’r unig gorff sy’n gallu dylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg.  Mae gan nifer o gyrff eraill ran i’w chwarae, yn genedlaethol neu lleol, yn sefydliadau, ysgolion, cyflogwyr, teuluoedd ac unigolion.  Mae’r iaith yn rhan ohonom ac mae’n perthyn i bawb.  Mae ganddom ni i gyd ran i’w chwarae wrth sicrhau ei dyfodol.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y gwanwyn fydd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn mwy o fanylder.

Grantiau ar gyfer Y Gymraeg 2014-15

Rhieni dros Addysg Gymraeg (RHAG) £35,140

Menter Abertawe £102,145

Menter Bro Ogwr £59,435

Menter Brycheiniog £28,451

Menter Caerdydd (gan gynnwys Menter y Fro a Tafwyl) £134,591

Menter Iaith Caerffili £95,552

Menter Castell Nedd Port Talbot £77,415

CERED £103,068

Menter Iaith Conwy £97,678

Menter Dinbych £81,583

Menter Iaith Sir y Fflint £72,043

Menter Iaith Maelor £36,540

Menter Maldwyn £72,591

Menter Merthyr Tudful £58,400

Menter  Môn £89,132

Menter Iaith Dinefwr £93,000

Menter Cwm Gwendraeth Cyf £87,791

Menter Gorllewin Sir Gar £66,921

Menter Iaith Sir Benfro £90,279

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf   £107,768

Menter Iaith Blaenau Gwent £64,200

Menter Iaith Casnewydd £25,550

Hunaniaith £83,715

Mentrau Iaith Cymru £61,500

Merched y Wawr £84,205

Cymdeithas Eisteddfodau Cymru   £46,036

Eisteddfod Genedlaethol Cymru £543,000

Cynllun Hybu Ardal Aman Tawe (Menter Bro Dinefwr) £38,000

Cynllun Hybu Ardal Aman Tawe (Menter Castell Nedd Port Talbot) £38,000

Gwobr Dug Caeredin £20,300

Dyffryn Nantlle 20/20 £3,000

Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru £89,719

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig £12,165

Urdd Gobaith Cymru £852,184

Gwallgofiaid £23,000

Plant yng Nghymru £3,000

CYFANSWM   £3,577,097

Safonau y Gymraeg

Safonau 2014Mae’r set gyntaf o safonau mewn perthynas â’r Gymraeg wedi ei chyhoeddi

Gellir darllen y safonau yma >  Safonau

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad rhwng 27Ionawr a 18 Ebrill i ddyfarnu pa sefyliad a pha safonau fydd yn gymwys iddynt.

Yn dilyn cyhoeddi’r Safonau newydd gan y Llywodraeth mae dyletswydd ar Comisiynydd y Gymraeg i wneud ymchwiliad i ddyfarnu a ddylai corff orfod cydymffurfio â safonau a pha safonau ddylai fod yn benodol gymwys iddynt.

Mae’r Ymchwiliad Safonau cyntaf yn cychwyn ar y 27 Ionawr ac yn parhau hyd 18 Ebrill ac yn cynnwys y Cynghorau Sir, y Parciau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Ymchwiliad yn rhoi cyfle i’r awdurdodau ymateb i’r Safonau a hefyd bydd Holiadur i’r cyhoedd rhoi ei barn ar y Safonau ac fe fydd y Comisiynydd yn ystyried y Cynlluniau Iaith presennol a’r adroddiadau monitro.

Erbyn 30 Mai bydd y Comisiynydd yn paratoi adroddiad ar y Safonau all gynnwys argymhellion i’w newid neu addasu ac yn nodi pa gyrff ddylai fod yn gweithredu pa safonau.

Bydd y Llywodraeth yn ystyried adroddiad y Comisiynydd ac yn paratoi Rheoliadau i’w gosod gerbron y Cynulliad fydd yn enwi pob awdurdod ac a ba Safonau y bydd angen iddo gydymffurfio.

Disgwylir cwblhau y broses erbyn diwedd mis Tachwedd 2014.

Bydd amserlen yn cael ei gyhoeddi ar gyfer yr un broses i gyrff eraill megis yr Awdurdodau Iechyd ayb.

Bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbyseb Statudol fod yr Ymchwiliad yn digwydd ar 27 Ionawr ac yn gwahodd y cyhoedd i ymateb drwy Holiadur ar-lein neu drwy e-bost.

Dyfarnu grantiau i hyrwyddo technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg

LInc

Dyma gynllun gweithredu y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar gyfer Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau i chwe phrosiect o dan ei rhaglen 2013-14.

Roedd y rhaglen grantiau’n agored i geisiadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Gofynnwyd i ymgeiswyr roi manylion am sut y byddai eu ceisiadau yn helpu i wireddu amcanion y Cynllun Gweithredu ar gyfer Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg. Dyfarnwyd grantiau 2013-14 i’r prosiectau canlynol:

Canolfan Bedwyr – GALLU: Gwaith Adnabod Lleferydd Uwch

Bydd y prosiect hwn yn cryfhau’r seilwaith technoleg Gymraeg presennol, drwy ddarparu modiwl newydd ar gyfer llais-i-destun. Bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn gweithio ar gam nesaf y gwaith o ddatblygu technoleg adnabod llais yn y Gymraeg, drwy gael nifer mawr o bobl i gyfrannu at gronfa o leferydd Cymraeg. Yn strategol, mae mawr angen adnodd o’r fath a allai olygu y bydd y Gymraeg yn cael ei chynnwys yn y gwaith o ddatblygu nwyddau seiliedig ar adnabod llais yn y dyfodol, megis meddalwedd swyddfa a nwyddau a weithredir drwy leferydd. Mae’r prosiect hwn yn cael ei redeg ar y cyd ag S4C.

JOMEC – StoriNi – Creu a rhannu newyddion

Bydd Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn helpu cymunedau i gasglu, cyhoeddi a defnyddio newyddion a gwybodaeth ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny drwy ap a meddalwedd Gymraeg a fydd ar gael am ddim. Bydd yr adnoddau hyn yn caniatáu i aelodau cymunedau daearyddol a chymunedau o ddiddordeb gysylltu â’i gilydd ar-lein, gan sicrhau bod mwy o Gymraeg i’w gweld ar-lein a bod mwy o ddefnydd ohoni.

Partneriaeth Penrhys – Technoleg Fawr mewn Dwylo Bach

Bydd Partneriaeth Penrhys yn cyflogi prentis, gyda chymorth cwmni ymgynghori sy’n datblygu meddalwedd cenedlaethol, i greu dau ap newydd i blant dan 7 oed allu datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Bydd yr apiau’n addas i blant ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg eu defnyddio yn ystod gwersi yn yr ysgol a hefyd yn eu cartrefi os bydd eu rhieni’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â’u plant. Bydd y prosiect yn cynnal gweithdai i ddysgu sgiliau rhaglennu a chodio i bobl ifanc dan 25, a hynny o dan ofal Clwb Codio’r Rhondda. Bydd y prosiect yn cynyddu’r deunydd sydd ar gael yn y Gymraeg a hefyd bydd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn codio apiau.

Prifysgol Aberystwyth – Creu Meddalwedd ar gyfer Apiau Dysgu Cymraeg

Bydd Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn datblygu meddalwedd sy’n cynnig fframwaith i helpu i greu nifer o apiau newydd ar gyfer dysgu Cymraeg. Bydd hynny’n galluogi sefydliadau i gasglu deunydd ar gyfer apiau dysgu Cymraeg newydd heb fawr o gost. Bydd y prosiect yn ei gwneud yn haws datblygu a darparu apiau dysgu Cymraeg drwy rannu templed sylfaenol.

Urdd Gobaith Cymru – Ap Urdd

Bydd yr Urdd yn creu ap (ynghyd â gwefan berthnasol) a fydd yn caniatáu i bobl ifanc rannu, adolygu a dod o hyd i wybodaeth am y digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg sy’n digwydd yn eu cymunedau. Hefyd bydd yr ap yn annog pobl ifanc i drafod yn Gymraeg y profiadau y maen nhw wedi eu cael yng ngweithgareddau’r Urdd, gan sicrhau bod mwy o Gymraeg i’w gweld ar-lein. Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg yn annog pobl ifanc 11-25 oed i ddefnyddio technoleg, a bydd yr ap hwn yn ddull o boblogeiddio’n defnydd o’r Gymraeg ar-lein.

Nwdls Cyf

Bydd Nwdls Cyf yn darparu gwasanaeth ar y we a fydd yn coladu cynnwys Cymraeg Twitter mewn un lle, gan wneud y Gymraeg a’r rheini sy’n ei defnyddio yn fwy amlwg. Mae Twitter yn blatfform sy’n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer trafod newyddion, diwylliant a chymdeithas mewn amser real. Bydd y wefan yn tynnu sylw at bynciau trendio, pynciau llosg, a hefyd dolenni at gynnwys Cymraeg sy’n cael ei rannu drwy’r platfform, gan annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein.

Bydd y rhaglen grantiau ar gyfer 2014-15 yn agor ar gyfer ceisiadau yn y flwyddyn newydd. Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ymgeisio, i’w gweld ar y dudalen ar gyfer grantiau hyrwyddo technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.