Galw am ymateb ‘mawr’ i’r Gynhadledd Fawr

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn falch o gyhoeddi bod y Prif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i’w cais am gyfarfod i drafod y gyllideb ddrafft. Mae’r Mudiadau’n hyderu y bydd modd gwneud hyn cyn y bleidlais ar y gyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr.

Daw’r newyddion wrth i’r Prif Weinidog baratoi i wneud datganiad yn y Cynulliad am ei ymateb cychwynnol i’r Gynhadledd Fawr.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg,

“Roedd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn bryderus o weld bod y gyllideb ddrafft yn awgrymu cwtogi ar y buddsoddiad ar gyfer yr iaith Gymraeg, ac yn benodol o safbwynt dysgu Cymraeg. Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg o’r farn y dylai gwariant ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg gael ei flaenoriaethu wrth i ni fel gwlad ymateb i ffigurau pryderus y cyfrifiad ac wrth i ni edrych ymlaen at weld ymateb y Llywodraeth i’r Gynhadledd Fawr a gynhaliwyd yn yr Haf.

“Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn awyddus i weld ymateb ‘mawr’ i’r gynhadledd ‘fawr’.

“Adeg y Gynhadledd Fawr, galwodd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg ar i’r Llywodraeth gynyddu’r gwariant ar brosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg i 1% o’i chyllideb dros amser, gan ddadlau bod angen buddsoddiad yn yr iaith sy’n cyfateb i’r cyllid a fuddsoddir yn y Fasgeg yng Ngwlad y Basg. Byddai unrhyw doriad i’r cyfeiriad arall yn andwyol, yn enwedig o gofio bod arolygon wedi eu comisiynu sy’n galw am fwy o wariant ar eitemau penodol.”