Cynigion i sicrhau ffyniant y Gymraeg

Datblygu’r iaith Gymraeg

Papur Trafod Mudiadau Dathlu’r Gymraeg

 

Cyflwyniad

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn grŵp ymbarél o 23 mudiad sydd yn hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar lawr gwlad.

Croesawn yn wresog ymgynghoriad “Gynhadledd Fawr” y Llywodraeth gan iddo gynnig cyfle i’n haelodau gyflwyno cynlluniau i gryfhau’r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

Bwriad y ddogfen hon yw amlinellu ffyrdd lle yr ydym, fel mudiadau, yn credu y gellid cyrraedd nodau ac amcanion y Llywodraeth.

Cred Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Yn y ddogfen hon, rydym wedi adnabod nifer o feysydd lle gellid targedu buddsoddiad ychwanegol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a’i chymunedau yn tyfu.

 

Y Cyddestun

Oherwydd patrymau gwariant hanesyddol, prin yw buddsoddiad y Llywodraeth yn y Gymraeg.

Ym maes Addysg mae’r galw gan rieni am addysg Gymraeg wedi achosi Cynghorau Sir a’r Llywodraeth i ehangu’r ddarpariaeth ond heb ateb y galw yn gyfan gwbl. Mewn meysydd eraill mae’r gwariant ar y Gymraeg yn uniongyrchol yn llai na £12m y flwyddyn o gyllideb flynyddol y Llywodraeth o dros £13.6 biliwn (2015/16). Araf hefyd yw’r ymgais i brifffrydio’r Gymraeg drwy adrannau’r Llywodraeth ac yn aml nid yw polisïau newydd yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth.

Nodwn fod buddsoddiad llawer helaethach yn yr iaith Fasgeg, a gwelwn fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth gyda chynnydd yn nifer siaradwyr yr iaith o 24% yn 1991 i 32% yn 2011.

Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn amlygu nifer o heriau a wyneba’r iaith ond credwn fod meysydd penodol lle gellid buddsoddi a fyddai o fudd nid yn unig i’r Gymraeg ond nifer o amcanion eraill y Llywodraeth.

 

Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth

Mae angen gweithredu pendant i wireddu’r Strategaeth drwy ganolbwyntio ar

(i) Trosglwyddiant iaith rhwng rhieni a’u plant;

(ii) Defnydd plant o’r Gymraeg yn yr ysgol ac yn gymdeithasol;

(iii) Cyfleoeodd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gorffen ysgol;

(iv) Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a chreu swyddi newydd.

 

Gwariant ar Ddarpariaeth Cymraeg 1% dros y Gymraeg

Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu’r gwariant ar brosiectau penodol Cymraeg, dros amser, i 1% o’r gyllideb sef tua £136 miliwn yn y flwyddyn 2015/16 1

Daw rhan o’r gwariant yma drwy arallgyfeirio gwariant presennol. Hefyd galwn ar y Cynghorau Sir a chyrff statudol eraill i sicrhau fod eu holl wasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

1 Adolygiad Gwariant 2013, Trysorlys y DU

 

Crynodeb: Cynigion i Ddatblygu’r Gymraeg

Mae nifer o’r cyrff sy’n aelodau o Mudiadau Dathlu’r Gymraeg wedi paratoi cynigion a syniadau ar gyfer datblygu meysydd penodol.

Isod rhestrir y prif gynigion credir bydd yn gam pwysig i wireddu dymuniad y Llywodraeth a

thrigolion Cymru i weld yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu ac yn rhan allweddol o’n bywyd o ddydd i ddydd. Credwn y bydd y camau pellach hyn yn cyflawni nifer o amcanion y strategaeth iaith a strategaeth addysg Gymraeg.

Cymunedol

Cefnogi’r llu o fudiadau a chymdeithasau sy’n cynnal y Gymraeg.

Clustnodi 10 o ardaloedd “Adfywio a Datblygu’r Gymraeg” cynllun peilot i’w hariannu gan gyllid Adfywio Cymunedol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Targedu siaradwyr Cymraeg yn eu harddegau a chynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid, chwaraeon a diwylliannol.

Cefnogi a digideiddio Papurau Bro.

Cefnogi gwaith Merched y Wawr drwy gynorthwyo’r canghennau yn ariannol, cyhoeddusrwydd, a phresenoldeb yn y gwyliau cenedlaethol. Cynnig cyflogau teg i’r gweithwyr maes.

Cynyddu’r grant blynyddol a roddir i’r Eisteddfod Genedlaethol yn unol ag argymhellion Adroddiad Grant Thornton a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2005 er mwyn sicrhau y gall yr ŵyl, ymysg pethau eraill, barhau i gynnal rhagor o ddigwyddiadau cymdeithasol lleol a rhanbarthol.

Creu mwy o gyfleoedd i rieni i gymdeithasu yn Gymraeg drwy gyflogi arweinwyr digwyddiadau cymdeithasol.

Ehangu cynllun “CEG” i integreiddio dysgwyr ar draws Cymru.

Ehangu ac addasu rhaglen TWF yn genedlaethol fel bod ardaloedd nad ydynt yn cael ei gwasanaethu ar hyn o bryd yn dod yn rhan o’r ymgyrch.

Buddsoddiad teg a digonol yn y Blynyddoedd Cynnar e.e. Rhaglenni megis Dechrau’n Deg, rhaglenni rhianta.

Ehangu gwaith yr Urdd drwy gyflogi mwy o swyddog ieuenctid ychwanegol a mwy o swyddog chwaraeon i gynyddu’r cyfleoedd cymdeithasol Cymraeg rheolaidd i blant a phobl ifanc a datblygu clybiau chwaraeon.

Denu buddsoddiad i ddatblygu dulliau technolegol i sicrhau bod modd i bobl ifanc gyfathrebu gyda’i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Gweithio gydag ysgolion a rhieni i sicrhau bod pobl yn sylweddoli pwysigrwydd sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn dod yn iaith fyw y tu allan i furiau’r ysgol.

Cefnogi cymunedau i gynnal cyfrifiadau cymunedol er mwyn asesu cyflwr y Gymraeg a llunio argymhellion ar gyfer ei chryfhau.

Arian cyfalaf er mwyn prynu cyfarpar ar gyfer digwyddiadau mawrion megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfodau a sioeau eraill.

Ehangu’r Mentrau Iaith ym mhob rhan o Gymru i ddatblygu ac adfywio cymunedau, gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a’r gymuned. Cydweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu a hyrwyddo gwasanaethau a gweithgareddau Cymraeg a chefnogi busnesau lleol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.

Sefydlu darparwr newydd amlgyfryngol a fyddai’n ehangu’r gynulleidfa sydd yn gwrando, gwylio a defnyddio’u Cymraeg, a darparu rhwydwaith cenedlaethol Cymraeg fydd yn cynnig platfform i brosiectau bro a chymunedol.

Darparu adnoddau digonol i greu rhwydwaith o gynlluniau cyfieithu cymunedol, gyda’r pwyslais ar gyfieithu ar y pryd, er mwyn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, gan adeiladu ar gynllun Menter Iaith Conwy ar ran mentrau’r gogledd a ariennir gan y Cynllun Datblygu Gwledig.


 

Cyflogaeth

Cefnogi ffyrdd i fagu mentergarwch yn ein cymunedau drwy sefydlu rhwydwaith o fusnesau Cymraeg a fyddai’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad parthed hyfforddiant a dechrau busnesau Cymraeg newydd.

Dylid sefydlu Ffederasiwn Cydweithredol Busnesau Cymraeg Cymru i fanteisio ar y brwdfrydedd a’r gweithgaredd sydd eisoes yn y Gymraeg arlein i hybu a gwireddu hyn.

Dylai’r llywodraeth gynnig cefnogaeth i gwmnïau symud o ardaloedd twf i lefydd eraill yng Nghymru, ac fel rhan o’r cytundeb cefnogaeth dylent sicrhau fod canran o’r gweithlu â sgiliau cyfathrebu Cymraeg.

Creu cynllun Marchnad Lafur Cymraeg a’i weithredu drwy’r Mentrau Iaith.

Datganoli Swyddi.

Creu prentisiaethau drwy’r Farchnad Llafur Cymraeg a threfnu hyfforddiant sgiliau cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, yn benodol sgiliau hwyluso diwydiannau a mentrau cydweithredol.

Dylid cynnig mwy o gefnogaeth (yn ariannol a thechnegol) i’r sector cydweithredol, gyda thargedau pendant i greu swyddi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf.

Sefydlu rhaglen genedlaethol i gefnogi mentergarwch ymhlith pobl ifanc (16 24

oed) sydd yn awyddus i sefydlu busnesau gyda phwyslais arbennig ar fusnesau fydd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg neu ddwyieithog.

 

Cymraeg i Oedolion

Ehangu dysgu Cymraeg yn y gweithle, gan gynnwys hyfforddiant dwys i 1,000 o athrawon o fewn y ddwy flynedd nesaf fel bod modd iddynt wneud eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd i weithwyr y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg uwch ac addysg bellach.

Darparu mwy o gyfleoedd hyfforddiant mewn swydd i loywi’r Gymraeg ac i ddysgu Cymraeg a chyrsiau ymwybyddiaeth iaith.

 

Y Llywodraeth

Adolygiad cyflawn o holl wariant y llywodraeth, gan gorff annibynnol fel Comisiynydd y Gymraeg, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg sef mesur ôl troed ieithyddol y gwariant.

Sicrhau fod holl adrannau’r Llywodraeth yn gweithredu’r Strategaeth Iaith ac yn hyrwyddo

defnydd o’r Gymraeg.

Sefydlu cynllun grantiau i brynwyr tai tro cyntaf.

Rhoi’r hawl i gynghorau godi treth o 200% ar ail gartrefi.

 


 

Addysg

Cynyddu nifer y ffrydiau Cymraeg cynradd 100 ffrwd 30 plentyn i gyrraedd targed Llywodraeth 2020 yn Strategaeth 30% o blant 7 oed.

Ehangu cyllideb y Cynllun Sabothol er mwyn ymestyn y cynllun i weithwyr addysg eraill, ynenwedig cynorthwywyr dosbarth Llywodraeth Cymru i lansio ymgyrch cenedlaethol dwys i ddarbwyllo mwy o rieni plant blynyddoedd cynnar i ddewis addysg Gymraeg. Cynyddu’n sylweddol y gyllideb ar gyfer cynlluniau megis ‘Twf’ a phwysleisio mai un o’r ffyrdd mwyaf amlwg o godi safonau llythrennedd a rhifedd yw trwy ehangu addysg ddwyieithog.

Datblygu sgiliau Cymraeg gweithlu’r Cylchoedd Meithrin.

Cynyddu’r buddsoddiad a’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector ôl16, gan sicrhau bod y gwariant yn cynyddu’n sylweddol yn y sector, yn arbennig yn y sector addysg bellach a’r sector addysg oedolion yn y gymuned, tra’n sicrhau parhad i’r gefnogaeth mewn sefydliadau lle mae’r ddarpariaeth eisoes yn gryf.

Cynyddu nifer o Swyddogion Addysg Ranbarthol y Gymraeg ac Athrawon Bro.

Cynyddu rôl y Gymraeg mewn Addysg yn y Gweithle a sicrhau prentisiaethau mewn lleoliadau Cymraeg a dwyieithog mewn amrywiaeth eang o feysydd

Sicrhau bod pob disgybl sy’n sefyll profion llythrennedd cenedlaethol yn gwneud hynny yn y Gymraeg (Iaith Gyntaf/Ail Iaith) a’r Saesneg

Cynyddu nifer y Swyddogion Codi Safonau Ysgolion a ddarperir drwy’r consortia rhanbarthol sy’n gallu gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sydd ag arbenigedd mewn pynciau penodol ar draws y cwricwlwm

Cynyddu’r cynllunio a’r hyfforddiant i gynorthwywyr dosbarth, yn y Cyfnod Sylfaen yn arbennig, i sicrhau cyflenwad digonol o staff â sgiliau da yn y Gymraeg

Cynyddu’r cynllunio a’r hyfforddiant i sicrhau bod athro â sgiliau da yn y Gymraeg ar gael i ddysgu plant y Cyfnod Sylfaen – ym mhob ysgol a lleoliad yng Nghymru

Gwella prosesau cynllunio’r gweithlu, i sicrhau bod y Llywodraeth yn gwybod faint o athrawon, ym mha bynciau, ar ba gyfnodau addysgol (gan gynnwys arweinwyr ysgol) sydd eu hangen, er mwyn gosod targedau recriwtio i’r cyrsiau hyfforddiant priodol (BAdd; TAR; CPCP ac ati); mae hyn yn arbennig o bwysig ym maes Cymraeg Ail Iaith ac Anghenion Dysgu Ychwanegol ble mae prinder difrifol o athrawon â’r sgiliau ieithyddol priodol i addysgu’r pwnc, ac ym maes ôl16/Addysg Bellach yn enwedig pynciau galwedigaethol.

Cynyddu’r buddsoddiad mewn cynlluniau i Gymreigio’r gweithlu presennol – ymestyn/addasu’r Cwrs Sabothol (bob lefel); defnyddio pwysau, gan gynnwys drwy systemau codi safonau ysgolion, i roi pwysau ar ysgolion i ddeall pwysigrwydd cynyddu sgiliau ieithyddol y gweithlu (er mwyn ymgyrraedd at dargedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg), gan gynnwys drwy ryddhau staff i fynychu cyrsiau o’r fath.

Sefydlu Athrofa Cymraeg i Oedolion a fydd yn gallu darparu cyfnodau sabothol, hyd at flwyddyn yn cynnwys rhaglen gynhwysfawr dysgu Cymraeg i athrawon a phenaethiaid, a gloyw iaith athrawon, hyn i raddau ar gyfer y sector Saesneg ond hefyd i ddenu i’r sector Cymraeg a chyrsiau i rieni sydd am newid iaith y cartref.

Cyrsiau dysgu iaith i ddarparwyr maes addysg, gan gynnwys therapyddion iaith, seicolegwyr ayb. Mae tua €45miliwn yng Ngwlad y Basgiaid ar gyfer HABE (Sefydliad Llythrennedd a Dysgu Basgeg i Oedolion) : tua 4 gwaith yr hyn a werir yng Nghymru. Gallai gwaith Sefydliad tebyg yng Nghymru gynnwys cydlynu ymdrechion i sefydlu Canolfannau Cymraeg a fydd yn ganolfannau dysgu iaith a diwylliant.

Marchnata addysg Gymraeg angen rhaglen genedlaethol i hyrwyddo manteision

dwyieithrwydd a rhannu gwybodaeth am addysg Gymraeg. Angen rhaglen uchelgeisiol gyda phroffil uchel. Angen fod ardaloedd lleol yn medru teilwra’r neges i’w cymunedau lleol er mwyn atgyfnerthu negeseuon cenedlaethol.

Sefydlu strwythur cryf ar gyfer trwytho hwyrddyfodiaid cyn iddynt fynd mewn i addysg Gymraeg, ar sail model canolfanau hwyrddyfodiaid Gwynedd

Sicrhau dilyniant ieithyddol rhwng pob cyfnod allweddol, yn enwedig CA2 a 3 wrth i ddisgyblion drosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd.

Buddsoddiad teg a digonol yn y Blynyddoedd Cynnar e.e. Rhaglenni megis Dechrau’n Deg, rhaglenni rhianta. Cydnabod bod y gweithlu yn elfen hanfodol e.e. gweithlu’r Cylchoedd Meithrin angen sicrhau fod sgiliau Cymraeg yr unigolion hynny o safon uchel.

 


 

Addysg Bellach / Addysg Uwch

 

Nifer o   Weithgareddau Dysgu mewn   sefydliadau Cymraeg Dwyieithog   Saesneg Cyfanswm Addysg Uwch fesul pwnc a statws Cyfrwng Cymraeg

Cymraeg

Dwyieithog

Saesneg

Cyfanswm

2010/11 6000 (0.9%) 25,405 (3.8%) 637,370 (95.3%) 668,770

 

 

 

 

Sicrhau parhad cyllid y Coleg Cymraeg i greu newid tymor hir sydd yn allweddol i ffyniant y Gymraeg oddi fewn i addysg uwch. Hefyd mae angen trawsnewid cyfatebol mewn sectorau addysgol eraill.

Mae myfyrwyr yn cael eu colli o addysg Gymraeg ar y cyfnod 16-18 a rhai yn y categori 14-16 oherwydd yr opsiynau a gynigir ar y lefel 16-18. Er mwyn sicrhau llif cyson o fyfyrwyr dwyieithog hyddysg mae angen ehangu yn sylweddol y cyfleoedd a’r niferoedd sy’n astudio cyrsiau lefel 3 hynny yw lefel A neu Addysg Bellach yn Gymraeg.

Mae angen cyllid penodol i gefnogi darlithyddiaethau ym maes addysg bellach ar fodel tebyg i’r Coleg Cymraeg.