Gweithredu’r Ddeddf Iaith

Heddiw, 30 Mawrth, mae Dathlu’r Gymraeg yn falch i weld fod Deddf Iaith 2011 yn cael ei weithredu. Mae’r Ddeddf yn datgan na ddylid trin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau newydd a ddaw i rym heddiw yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Llywodraeth, y Cynghorau Sirol a’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol i weithredu yn gadarnhaol ac i gynnig darpariaeth lawn. Mae’r pwyslais wedi symud oddi wrth yr unigolyn a’r cyfrifoldeb nawr ar y cyrff statudol i ddarparu’r gwasanaeth.

Mae Safonau’r Ddeddf Iaith yn gosod rheolau ar gyflenwi gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys cyfarfodydd personol a chyhoeddus a hyfforddiant. Disgwylir i’r cyrff roi cyhoeddusrwydd eang i’r ddarpariaeth newydd.

Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, “Mae’r broses o weithredu’r Ddeddf Iaith wedi cymryd amser hir ond nawr mae’r gwaith o ddatblygu’r darpariaeth yn gallu dechrau. Byddwn yn annog pobl i ofyn am y gwasanaethau newydd fydd ar gael ac am i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried unrhyw fethiant i weithredu. Mae’n hen bryd fod y Gymraeg yn cael statws cyfartal â’r Saesneg a  does dim esgus i beidio gweithredu’r Safonau newydd. Byddwn yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i roi gwybod am y newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf Iaith.”

 

Crynodeb o’r hawliau gan Gymdeithas yr Iaith

crynodebhawliau2016

Dywed Comisiynydd y Gymraeg

Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonau’r Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.

Mae’r safonau’n creu hawliau newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol yw’r sefydliadau cyntaf i weithredu’r safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg ôl-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.

Mae safonau’n seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i  gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau sy’n gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.

I ddysgu mwy am eich hawliau ewch i’r dudalen ‘Hawliau i Ddefnyddio’r Gymraeg’ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu’n ysgrifenedig (manylion islaw).