Mudiadau iaith yn galw am achub neuadd Pantycelyn

Mae dros ugain mudiad iaith wedi ysgrifennu at bennaeth Prifysgol Aberystwyth gan bwysleisio gwerth a phwysigrwydd neuaddau preswyl Cymraeg fel pwerdai iaith sy’n atgyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru, yn sgil y bygythiadau diweddar i neuadd Pantycelyn.

Yng ngoleuni’r ymgyrch ddiweddar i ddiogelu Neuadd Pantycelyn, mae mudiadau sydd yn aelodau’r grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch a hefyd yn galw ar brifysgolion Cymru i sicrhau eu bod yn ystyried lles ac anghenion ieithyddol eu myfyrwyr wrth wneud trefniadau llety a phreswylio ar eu cyfer. Dengys ymchwil cymdeithasol-ieithyddol gan arbenigwyr bod cymunedau ble siaredir yr iaith gan dros 70% o’r boblogaeth yn hanfodol bwysig er mwyn cynnal yr iaith fel iaith gymunedol normal. Mae neuaddau preswyl cyfrwng Cymraeg fel Pantycelyn, felly, yn holl bwysig wrth ddatblygu a chefnogi patrymau iaith myfyrwyr.

Mewn llythyr at Ganghellor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, medd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg:

“Rydym fel mudiadau yn galw ar Brifysgol Aberystwyth i ymrwymo’n glir i’r egwyddor sylfaenol o ddarparu llety cyfrwng Cymraeg digonol i’w myfyrwyr a chydnabod yr angen i leoliadau o’r fath gynnwys gofodau cyffredin addas sy’n caniatáu i fywyd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg ffynnu. Felly, erfyniwn arnoch i beidio â chau Neuadd Pantycelyn.

“Mae neuadd breswyl Gymraeg Pantycelyn wedi dod i hawlio safle pwysig ac eiconig ym mywyd cyhoeddus Cymru ac felly dylid parchu’r safle pwysig hwn a harneisio potensial llawn lleoliadau o’r fath er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr o bob rhan o Gymru fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol. Yn wir, mae angen rhagor o leoliadau o’r fath os yw’r Gymraeg i ffynnu dros y degawdau nesaf.

“Teimlwn y dylai Prifysgol Aberystwyth ddatgan eu hymrwymiad yn ddiamwys i gynnal y neuadd breswyl Gymraeg hollbwysig hon a sicrhau bod pob penderfyniad ynghylch y materion hyn yn ystyried anghenion ieithyddol eu myfyrwyr yn llawn.

“Wrth gytuno i ymrwymo i’r egwyddorion hyn, teimlwn fel mudiad y gall y brifysgol sicrhau eu bod yn cynnal ac yn cefnogi ethos Gymraeg gref y Brifysgol.”